Adnoddau ar lein!
Bu cryn alw dros y blynyddoedd diwethaf am roi adnoddau y gallai eglwysi ac unigolion eu defnyddio ar lein. Fe welwch astudiaethau, gwasanaethau a myfyrdodau ar y dudalen hon. Isod, fe welwch linc i’r oedfaon a’r myfyrdodau ar ffurf pamffled, PDF a Powerpoint. Ewch ati i’w darllen a’u defnyddio!
Cofier bod adnoddau sain i’w cael ar lein hefyd. Bydd y casgliad hwn yn tyfu wrth i amrywiol ddigwyddiadau gael eu cynnal. Ewch i wefan mixcloud i wrando ar y casgliad.
Dal ati i obeithio

Rydym yn byw mewn cyfnod o bryder oherwydd lledaeniad Covid-19 a hefyd mewn cyfnod o newid mawr i’n patrwm byw. Dyma ddefosiwn gan y Parchg Casi Jones yn seiliedig ar eiriau Salm 130 sy’n dechrau gyda chri o’r galon mewn dyddiau anodd.
Dydd Gŵyl Dewi 2020
Defnyddiau addas ar gyfer Gŵyl Ddewi gan y diweddar Mrs Alice Evans ‘Gwinllan a rhoddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad …’ Gellir lawrlwytho’r deunydd fan hyn.
Y Grawys 2020
Pedair astudiaeth ar gyfer cyfnod y Grawys gan y Parchg Ddr Geriant Tudur. Gellir eu lawrlwytho isod.
Sul y Blodau 2020
Myfyrdod ar gyfer Sul y Blodau; ”‘Heddwch! Heddwch!’ gan y Parchg. Robin Samuel. Gellir ei lawrlwytho wrth ddilyn y linc yma.
Oedfa’r Groglith 2020

Oedfa gyfan ar gyfer Dydd Gwener y Groglith wedi ei pharatoi gan y Parchg. Hywel Wyn Richards. Gellir lawrlwytho’r oedfa fan hyn, a sleidiau PowerPoint pwrpasol fan hyn.
Oedfa Sul y Pasg
Crist a gyfododd! Efe a gyfododd yn wir! Halelwia!’ Oedfa ar gyfer Sul y Pasg gan y Parchg. Beti-Wyn James. Gellir ei lawrlwytho yma.
Defosiwn gan y Parchg Emyr Gwyn Evans yn ystod cyfnod pryderus ymlediad Covid-19, a’r gobaith sydd yn stori’r Pasg. Gellir ei lawrlwytho yma.
Y Pentecost 2020
Gweddi addas i’r Pentecost gan y Parchg. Robin Samuel. Gellir ei lawrlwytho fan hyn.
‘Aros Iesu’ – Myfyrdod ar eiriau Pantycelyn, yn arbennig ar gyfer y Pentecost gan y Parchg Ddr Alun Tudur. Gellir ei lawrlwytho yma.
Dydd John Penri Mai 29, 2020
Myfrydod ar gyfer dydd John Penri, gan Dyfrig Rees. Gellir lawrlwytho’r ddogfen fan hyn.
Oedfa’r Cynhaeaf 2020
Oedfa’r Cynhaeaf; ‘Cariad Duw ar waith’ gan y diweddar Mrs Alice Evans, Sanclêr. Gellir lawrlwytho’r oedfa gyfan fan hyn.
Oedfa’r Nadolig
Iesu’r Ffoadur Lloches – Oedfa’r Nadolig gan y Parchg Guto Llewelyn. Gellir ei lawrlwytho fan hyn.
Dydd Gwener y Groglith

Oedfa’r Groglith 2019 gan Andrew Lenny
Pasg

Sul y Pasg 2019 gan Carys Ann
Y Grawys
Myfyrdod a Gweddi wythnos 1 ‘Iesu a’r Anialwch’
Myfrydod a Gweddi wythnos 2 ‘Israel a’r Anialwch’
Myfrydod a Gweddi wythnos 3 ‘Y Teithiwr a’r Anialwch’
Myfyrdod a Gweddi wythnos 4 ‘Yr Alltud a’r Anialwch’
Myfyrdod a Gweddi wythnos 5 ‘Y Proffwyd a’r Anialwch’
Myfyrdod a Gweddi wythnos 6 ‘Y Gobeithiol a’r Anialwch’
Dewch o hyd i adnoddau da ar gyfer y Grawys wrth ddilyn y linc yma.
Ceir hefyd canllaw i astudio (yn Saesneg) gan fudiad Embrace fan hyn. Maent yn seiliedig ar storïau o’r Dwyrain Canol.
Madagascar

Dyma adnoddau ar gyfer Ysgolion Sul ynglyn ag Apêl Madagascar
Coeden Cacao i liwio (Gwers 1)
Llun o’ch hoff far siocled (Gwers 1)
Stribed cartŵn sut i wneud siocled (Gwers 1)
Gwers 2 Nicolas a’r Ffatri Siocled (Pecyn Athrawon)
Gwers 2 Nicolas a’r Ffatri Siolced (Taflen Wybodaeth)
Gwers 2 (Ffilm fer o’r Ffatri Siocled)
Gwers 2 (Cyflwyniad PowerPoint o’r Ffatri Siocled)
Gŵyl Ddewi

Gweddi Gŵyl Ddewi gan Aled Lewis Evans
Pentecost

Myfyrdod Pentecost a Gweddïau gan Robin Samuel
Diolchgarwch

Myfyrdod Diolchgarwch gan Carwyn Siddall
Sul y Cofio

Er bod gwisgo’r pabi gwyn yn ymddangos yn arferiad diweddar, y mae ei wreiddiau yn mynd yn ôl i’r blynyddoedd yn syth ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma fyfyrdod pwrpasol yn seiliedig ar y pabi gwyn ar gyfer Sul y Cofio.
Nadolig
Sgets Bugeiliaid y Nadolig gan Mererid Mair
Gwasanaeth Carolau Nadolig gan Mererid Mair
Sgets Ben, Nain a’r Nadolig gan Mererid Mair
Sgets Nadolig gan Mererid Mair
Adfent

Myfyrdod Adfent – Dathlu Dyfodiad Adfent gan Llinos Morris
Myfrydod Adfent – ‘Disgwyl’ gan Robin Samuel
Sgets Adfent – Nadolig Bler Llawn Llanast, gan Mererid Mair a Llinos Morris
Blwyddyn Newydd

Oedfa Dechrau’r Flwyddyn – Coeden Bywyd
Diolchgarwch
Dyma adnoddau addas ar gyfer tymor Diolchgarwch. Gellir lawrlwytho oedfa arbennig yn seiliedig ar Salm 8 fan hyn, gweddi ac emyn bwrpasol wedi eu llunio gan Y Parchedig Carwyn Siddall.
Diwrnod Heddwch Rhyngwladol

Ar ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol dyma fyfyrdod pwrpasol a chyfoes gan R. Alun Evans i’w lawrlwytho yma, a gweddïau yma.
Apêl Madagascar 2018-2019
Dyma Oedfa arbennig i ddathlu’r cysylltiad rhwng Madagascar a Chymru. Gellir lawrlwytho Gwasanaeth Apêl Madagascar yma, a Sgwrs i’r Plant yma.
Gellir lawrlwytho cyfres o Sgyrsiau i’r Plant ar y Thema fan hyn –
Ar Antur Gyda Duw.
Mae Angen Pawb
Byd Rhyfeddol Duw
Sioe Frenhinol Cymru

Gyda’r Sioe Fawr yn cael ei chynnal yn Llanelwedd rhwng y 23ain a’r 26ain o Orffennaf eleni, dyma weddïau pwrpasol ar gyfer yr achlysur. Gellir lawrlwytho’r adnodd yma.
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Dyma wasanaeth cyflawn i ddiolch am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n dathlu 70 mlynedd eleni. Efallai y carech chi wahodd pobl o fewn eich cynulleidfa sydd wedi gweithio yn y Gwasanaeth i gymryd rhan. Gellir ei lawrlwytho yma.
Sul y Tadau

Dyma fyfyrdod a gweddïau yn arbennig ar gyfer Sul y Tadau, yn seiliedig ar fywyd a gwaith y cenhadwr David Jones sef ‘Tad yr Eglwys’ yn Madagascar. Gellir lawrlwytho’r adnoddau yma.
Eisteddfod yr Urdd

Mi fydd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar faes y Sioe, Llanelwedd yn cael ei gynnal rhwng 28 Mai – 2 Mehefin eleni. Dyma weddiau pwrpasol ar gyfer yr Wyl. Gellir lawrlwytho’r gweddiau yma.
Gwasanaeth i Gofio John Penri
Mae’r 29ain o Fai yn Ddiwrnod John Penri, wedi ei neulltuo i gofio y dyn o Gefn Brith ger mynydd Epynt. Ystyrir John Penri fel arwr a safodd yn gadarn dros yr hyn a gredai. Gellir lawrlwytho gwasanaeth i gofio amdano yma, a gweddiau perthnasol yma.
Pentecost

Myfyrdod addas ar gyfer y Pentecost a neges fer ynglŷn â theulu Eglwys Iesu Grist. Gellir lawrlwytho’r myfyrdod yma, a gweddïau pwrpasol yma.
Sul y Mamau

Dyma weddïau addas ar gyfer Sul y Mamau, gan gynnwys gweddiau o ddiolch am famau, gweddiau i’r sawl sy’n ei chael hi’n anodd ar y diwrnod, gweddi am y rhai fu fel mam i ni a gweddi dros yr eglwys. Gellir eu lawrlwytho yma. Dyma fyfyrdod ar gyfer Sul y Mamau.
Y Rhwydwaith Merched

Ymgyrch y flwyddyn hon yw Ymlaen at y Filiwn, sy’n adlewyrchu nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gellir lawrlwytho oedfa bwrpasol yma, syniadau ar gyfer emynau a gweddiau yma, ac emyn newydd wedi ei gyfansoddi gan Swyddog Adnoddau’r Gogledd; Casi Jones, yma.
Pasg

Lawrlwythwch myfyrdod, gweddïau a darlleniadau ar gyfer Gwener y Groglith yma.
Adnodd ‘Hwyl yr Ŵyl’ ar gyfer plant a phobl ifanc i’w gael yma.
Oedfa Sul y Pasg ar gael yma.
Gweddiau Sul y Pasg 2018 i’w lawrlwytho yma.
Dydd Gŵyl Dewi

Dyma ddau adnodd ar gyfer Oedfaon Gŵyl Ddewi. Y cyntaf yn fyfyrdod a’r ail yn wasanaeth llawn ar y thema ‘Cariad@Gymru’.
Y Flwyddyn Newydd

Dyma adnodd bwrpasol ar gyfer gwasanaeth dros gyfnod y flwyddyn newydd. Mae’n cynnwys myfyrdod, darlleniadau a gweddïau addas. I lawrlwytho’r ddogfen, pwyswch yma.
Adnoddau’r Nadolig

Yn ddiweddar, fe gynhaliwyd sesiynau Gwneud y Mwyaf o’r Nadolig yn ne a gogledd Cymru, wedi eu trefnu gan Swyddog Adnoddau’r Undeb; Casi Jones, a Menna Machreth (Undeb Bedyddwyr Cymru). Dyma gasgliad o adnoddau wedi eu paratoi gan y ddwy, Arfon Jones beibl.net, a Chymdeithas y Beibl. Hyderwn fod yr adnoddau yma yn werthfawr i bob eglwys dros yr Ŵyl.
Sgwrs Plant am Heddwch (Powerpoint)
Y Daith Orau Erioed (Powerpoint)
Templed Poster Oedfa Deulu Nadolig
Templed Poster Gwasanaeth Carolau
Sgript Y Daith Orau Erioed (gwasanaeth gyfan)
Templed Powerpoint i Oedfa’r Nadolig
Pedwar myfyrdod ar gyfer grwpiau bach
Anerchiad ‘Heddwch ar y ddaear?’
Sul y Cofio

Canrif wedi mawrolaeth Hedd Wyn ar faes y gad yn Passchendaele, dyma fyfyrdod a chyfres o weddïau addas ar gyfer Sul y Cofio.
Gellir lawrlwytho’r myfyrdod yma, a’r gweddïau yma.
Diolchgarwch
Yn ystod tymor yr hydref, dyma adnodd ddefnyddiol ar gyfer cynnal oedfa ddiolchgarwch ar gyfer y teulu cyfan. Mae Casi Jones wedi paratoi pwynt pwer yma, a’r gwasanaeth ei hun yma.
Sul Heddwch 2017

Mae dydd Sul y 24ain o Fedi, 2017 yn cael ei gydnabod fel Sul Heddwch ar draws y byd. Mae Swyddog Adnoddau’r Undeb yn y De, y Parchg. Robin Samuel, wedi cyfieithu oedfa arbennig ar gyfer y diwrnod. Gellir ei lawrlwytho a’i ddefnyddio yma.
Gweddïau i ddiolch am greadigrwydd

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, dyma weddïau gan y Parchg. Robin Samuel i ddiolch am greadigrwydd. Gellir ei lawrlwytho yma
Gweddïau ar gyfer Dydd Hiroshima.

Cynhelir Dydd Hiroshima ar ddydd Sul y 6ed o Awst. Gellir lawrlwytho gweddïau wedi eu llunio yn arbennig gan y Parchg. Robin Samuel yma.
Oedfa ‘Gwaith Gorffwys a Gwerth’

Diolch i’r Parchg. Casi Jones am baratoi’r oedfa ar Waith, Gorffwys a Gwerth. Gellir lawrlwytho’r ddogfen yma.
Gwasanaeth dathlu 40 CWM

Dyma wasanaeth wedi ei gynllunio yn arbennig i gofio deugain mlynedd ers sefydlu CWM (Council for World Mission). Sul y dathlu yw’r 16eg o Orffennaf, ond mae’r oedfa hon yn addas i’w defnyddio ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Gellir lawrlwytho’r testun yma.
Gwasanaeth ar gyfer Sul y Pentecost

Deunyddiau ar gyfer Sul y Pentecost wedi eu paratoi gan y Parchg Casi Jones, Swyddog Cyswllt ac Adnoddau y Gogledd gyda’r Undeb. Gellir lawrlwytho’r adnoddau isod a’u defnyddio mewn oedfaon.
Anerchiad Pentecost
Pentecost i’r Plant
Taflen Pentecost, Ochr 1
Taflen Pentecost, Ochr 2
Trefn i’r Gwasanaeth
Wythnos Cymorth Cristnogol 2017

Deunydd Wythnos Cymorth Cristnogol Mai 14 – 20.
Stori ffoadur sy’n ganolbwynt i Wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Bu’n rhaid i Nejebar ffoi o Afghanistan gyda’i theulu, oherwydd bygythiadau gan y Taliban. Maen nhw’n byw mewn gwersyll ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg ers chwe mis, a does dim arwydd y byddan nhw’n cael gadael yno yn fuan. Ceir mwy o stori Nejebar ar wefan Cymorth Cristnogol Cymru, ac yn adnoddau’r Wythnos. Mae’r Gwasanaeth eleni wedi ei baratoi gan y Parchg Robin Samuel, Swyddog Cyswllt ac Adnoddau y De gyda’r Undeb, ond y mae’n cynnwys emyn arbennig wedi ei gyfansoddi gan y Parchg Casi Jones, Swyddog Cyswllt ac Adnoddau y Gogledd.
Gellir lawr lwytho Gwasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol yma
Amlinelliad o Wasanaeth yma
Taflen o Weddïau addas yma
Fideo o weithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol 2017 yma

Mae eleni yn flwyddyn Byw y Beibl, a gellir lawrlwytho gwasanaeth cyfan i’w ddefnyddio mewn oedfa neu gyda grwpiau bychan fan hyn.
Oedfaon y Groglith a’r Pasg
Gwasanaeth wedi ei baratoi yn arbennig ar gyfer dydd Gwener y Groglith, gan Swyddog Adnoddau’r Gogledd, y Parchg. Casi Jones. Gellir lawrlwytho’r gwasanaeth yma
Dyma fyfyrdod a gweddïau wedi eu paratoi gan Swyddog Adnoddau’r Undeb, y Parchg. Robin Samuel yn arbennig ar gyfer Sul y Pasg. Gellir lawrlwytho fersiwn PDF o’r myfyrdod yma
Gweddïau a darlleniadau

Dyma rai darlleniadau a chyfres o weddïau i’w defnyddio pan fo amrywiol fathau o ymosodiadau yn digwydd yn ein byd. Cliciwch yma i lawrlwytho’r ddogfen.
Oedfaon Ddathlu William Williams, Pantycelyn

PowerPoint Oedfa Ddathlu Pantycelyn
Gyda diolch i’r Parchg. Alun Tudur am rannu’r adnodd hwn.

Gwasanaeth ”Calon ar Dân’ Dathlu William Williams Pantycelyn’, gan y Parchg. Casi Jones (Swyddog Cyswllt ac Adnoddau y Gogledd)
Oedfa Y Ffordd

Gwasanaeth sy’n Cofio Ffoaduriaid

Trefn Gwasanaeth Cymun Ffoaduriaid
Oedfa Penwythnos Y Gannwyll

penwythnos-y-gannwyll powerpoint
Er mwyn derbyn copi o’r gân “Golau i’r Nos”, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr Oedfa gan Tecwyn Ifan, cysylltwch â beti.wyn@icloud.com
Dathlu Blwyddyn y Beibl Byw
