📢Mae cyfres o bodlediadau misol newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg,Y Cwmni Bach, ar gael i chi wrando arno neu ei wylio yn awr! Cyfle i chi glywed sgwrs ddifyr rhwng dau am y byd a'i bethau.

Gellir gwrando ar y sgyrsiau mewn sawl ffordd:

Gwylio'r sgwrs ar YouTube / Vimeo wrth bwyso ar y lluniau isod.

Lawrlwytho'r fideo, wrth bwyso ar y gair 'Vimeo' ac yna dod o hyd i 'download' ar y dudalen nesaf.

Gwrando ar y sgyrsiau ar Spotify

Gwrando ar y sgyrsiau ar Apple Podcasts


Elinor Wyn Reynolds sy'n cael cwmni'r meddyg teulu a'r gwleidydd Dr Dai Lloyd yn stiwdio'r Cwmni Bach i drafod ei yrfa, ei fywyd a'i ffydd.


Sgwrs ddifyr gyda Menna Elfyn, un o bennaf beirdd Cymru. Mae hi'n ferch y Mans aeth â'i geiriau i bob cwr o'r byd. 


Gwestai arbennig Elinor Wyn Reynolds yn tro hyn yn stiwdio'r Cwmni Bach yw Edward Morus Jones. Mae'n adnabyddus fel canwr ar recordiau cynnar Dafydd Iwan, a bu’n llwyddiannus hefyd fel artist unigol yn ystod cyfnod diwedd yr 1960au a dechrau’r 1970au. Mae bellach yn rhannu ei amser rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.


Sheridan Angharad James yw gwestai arbennig Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn y Cwmni Bach. Mae hi yn Ganon Bugeiliol ar y plwyf a phererinion yn Nhŷ Ddewi.


Yn y rhifyn Nadoligaidd hwn o'r Cwmni Bach mae Dafydd Iwan yn westai arbennig i Elinor Wyn Reynolds.  Dewch i glywed am yr angerdd a'r ffydd sydd wedi ei symbylu i oes o ymgyrchu a gweithredu.


Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y Parchg Dewi Myrddin Hughes sy'n cadw cwmni i Elinor yn stiwdio y Cwmni Bach.


Trysorydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yw Geraint Rees, Efail Isaf.  Dyma ei sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds yn Y Cwmni Bach.


Llywydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Jeff Williams sy'n cadw cwmni i Elinor Wyn Reynolds yn stiwdio'r Cwmni Bach y tro hwn.  


Y tro hwn mae Elinor Wyn Reynolds yn cael cwmni Arfon Jones, cyfieithydd beibl.net a nifer o ganeuon addoli cyfoes yn stiwdio y Cwmni Bach.


Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, Siân Wyn Rees yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach y tro hwn. Yn enedigol o Lanilar, Ceredigion mae Siân bellach yn byw yng Nghaerdydd. Rhaglen hwyliog yn llawn straeon difyr o deithio'r byd i daith ysbrydol Sian hefyd.


 

Cyfle i ddod i adnabod Sion Brynach Prif Weithredwr newydd Cytun yn well - mae ganddo hanes diddorol ac amrywiol i'w rannu. 


Sgwrs ddiddorol gyda'r diwinydd Dr Anthony Reddie, ein darlithydd gwadd yn y Cyfarfodydd Blynyddol eleni.


Mae Ifor ap Glyn yn adnabyddus fel cyn fardd cenedlaethol. Dyma gyfle i glywed ychydig o'i hanes mewn sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach.


Swyddog Diogelu y Panel Diogelu Cydenwadol yw gwestai Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn Y Cwmni Bach.


Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, Rhun Dafydd yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach yr wythnos hon.


Mae Laura Karadog yn athrawes Yoga a myfyrio yng Ngorllewin Cymru ac mae'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds i drafod ei magwraeth yng Ngogledd Cymru, ei phrofiadau yn teithio'r byd a'i gwaith fel hyfforddwr Yoga.


Y canwr bytholwyrdd, Delwyn Siôn sy'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach yn y rhifyn hwn. Mae'n trafod ei yrfa fel cerddor dros nifer o ddegawdau, ei fagwraeth yn y cymoedd a'i rôl fel arweinydd yn eglwys annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth.


Yn dilyn COP 27 dyma gyfle i glywed barn un person ifanc am sefyllfa'r byd. Yn rhifyn diweddaraf Y Cwmni Bach, mae Nel Richards yn trafod yr hyn sy'n bwysig iddi hi.


Y gwestai yn y rhifyn hwn yw Emlyn Davies, Pentyrch. Mwyhewch!

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.