Gyda’i hymddeoliad, ddiwedd mis Mawrth eleni, daeth tymor gwasanaeth Ann, fel yr Ysgrifennydd Gweinyddol i’w derfyn wedi mwy na chwarter canrif o wasanaeth ffyddlon a theyrngar i’r Undeb.

Cychwynnodd ar ei gwaith yn 1998 yn yr hen Dŷ John Penri yn Heol Sant Helen wedi ei apwyntio bryd hynny i swydd newydd yr Ysgrifennydd Gweinyddol a thros y blynyddoedd bu’n ddiwyd a thrylwyr ei hymdrechion i gyfarfod â gofynion a chyfrifoldebau’i swydd gan sicrhau bod agweddau cyllidol, statudol a chyfreithiol yr Undeb yn ddiogel yn eu lle.

At hyn, bu’n barod iawn ei chyngor a’i chymorth i’r eglwysi, eu swyddogion a’u gweinidogion a’r cyfundebau gan ddod yn llais ac yn wyneb cyfeillgar, aeddfed a chadarn ei barn i laweroedd. Llwyddodd i loffa o ddogfennau deddfwriaethol, tu hwnt o gymhleth a phenblethus i’r mwyafrif ohonom ganllawiau digon syml i weithredu’n ddiogel arnynt.

Y mae’r ffeiliau trwchus sy’n beichio silffoedd ei swyddfa’n brawf o waith hanner oes a mwy ac yn gofnod o hynt a helynt yr Undeb dros y cyfnod hwnnw a’r eglwysi, llawer ohonynt ar adeg dyngedfennol yn eu hanes.

Chwithdod

Wrth golli Ann o Dŷ John Penri sylweddolwn gyda chwithdod ein  bod yn cael ein hamddifadu o aelod staff hynod o brofiadol ym mywyd a gwaith yr Undeb, un yn meddu gwybodaeth arbenigol o weithdrefnau a strwythurau gweinyddol, ond yn fwy na dim, un sy’n adnabod pobl yr Undeb, Annibynwyr Cymru a thu hwnt yn dda iawn ac yn eu caru.

Ofer fydd troi at ddrws ei hystafell am gyfarwyddyd sydyn bellach, eto, cysur gwybod nad yw ond caniad ffôn i ffwrdd a thaith fach sionc yn y car i Dŷ John Penri.

Bu Ann yn gydweithiwr triw i bedwar ysgrifennydd cyffredinol: i Derwyn, Dewi, Geraint a minnau a’r pedwar ohonom, fel eraill o staff yr Undeb gafodd hi’n gydymaith yn ymwybodol o’n dyled iddi ac yn diolch amdani.

Pleser pur yw dymuno ymddeoliad llawn a hapus iddi a phob nerth ac iechyd i fwynhau seibiant cwbl haeddiannol.

Dyfrig Rees

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.