Bob tri munud o bob dydd o bob wythnos, bydd rhywun yng ngwledydd Prydain yn cael gwybod bod dementia arno ef neu hi. Dyna faint y broblem. Mae hynny’n amlach na pheidio yn arwain at straen ddychrynllyd ar y teulu, boed hynny’n ariannol, yn gorfforol, yn emosiynol neu’n ysbrydol. Gyda 850,000 bellach yn byw gyda dementia, mae’n debygol ein bod i gyd yn adnabod rhywun sy’n byw gyda’r cyflwr.
Mae Undeb yr Annibynwyr yn credu fod ein heglwysi ni mewn sefyllfa gref i gynnig cefnogaeth werthfawr i bobl sy’n byw gyda dementia ac i’w teuluoedd a’u gofalwyr, a hynny ar fwy nag un lefel.
Yn y lle cyntaf mae gennym adnoddau a chyfleusterau a fedrai fod o gymorth mawr i gynnig man cyfarfod diogel i gynnal gweithgareddau amrywiol megis awr grefftau, caffi cof, sesiwn gerddorol neu chwarae gemau.
Yn ail, rydym yn gymdeithas ofalgar sy’n credu mewn cynorthwyo ein cymdogion a’n cyd-ddynion, a gallem gynnig ein hunain mewn gwahanol ffyrdd yn ôl y galw. Weithiau, efallai bod angen rhywun ar rota wythnosol i warchod am awr neu ddwy, neu i sgwrsio ar ben arall y ffôn.
Yn drydydd, gall ein hoedfaon presennol fod yn gysur fel man cyfarwydd a chynnes i rai sydd â brith gof am ganu emynau a chlywed adnodau.
Yn bedwerydd, rhaid cofio nad yw anghenion ysbrydol llawer iawn o bobl sy’n byw gyda dementia yn cael ei ddiwallu. Ni ddylai dementia fod yn rhwystr i bobl fedru dod i addoliad. Dylem eu croesawu a llunio oedfaon arbennig ar gyfer y rai sydd â dementia.
Dyma pam ein bod yn arwain ymgyrch i geisio gwneud ein heglwysi i gyd yn rhai dementia-gyfeillgar. Golyga hyn addysgu ein haelodau a’n swyddogion, cynghori teuluoedd ynghylch y cymorth sydd ar gael, a chydweithio gyda mudiadau ac enwadau eraill i wneud safiad dros hawliau’r unigolion, eu gofalwyr a’u teuluoedd.