Mae gennym newyddion da, y mae Hanta sydd wedi bod yn gweithio fel cyfarwyddwr y lloches i ferched Akany Avoko Faravohitra (AAF) ym Madagascar am y 7 mlynedd ddiwethaf, yn symud ymlaen o’r fan hon i weithio fel cyfarwyddwr Akany Avoko Ambohidratrimo (AAA), y ganolfan i blant ble tyfodd hi i fyny ynddo fel plentyn amddifad ei hun.
Er ei bod hi’n symud ymlaen i fod yn gyfarwyddwr canolfan fwy o faint, y mae hi’n dal i fod yn fawr ei gofal o’r rhai sy’n dal i fyw yn Akany Avoko Faravohitra. Bydd Hanta’n helpu’r cyfarwyddwr newydd i gychwyn arni ac mi fydd hi’n parhau i ymweld â’r merched er mwyn eu cefnogi a’u hannog ar eu teithiau drwy fywyd.
Rhai o’r plant cyntaf i gael eu derbyn i Akany Avoko Faravohitra
Bydd Money for Madagascar yn parhau i gefnogi AAF ac AAA hefyd, ac maent yn hynod hapus i barhau i rannu newyddion a chadw cyswllt a chefnogi’r ddwy ganolfan.
Menyw ddewr yw Hanta, mae’n rhywun a oroesodd blentyndod anodd. Fe’i ganed yn 1981 ac fe’i hamddifadwyd pan oedd yn 7 oed. Gofalwyd amdani gan ei mam-gu cyn gorfod cael ei rhoi mewn cartref gofal (Akany Avoko Ambohidratrimo) ynghyd ag un o’i chwiorydd. Er gwaethaf y dechrau anodd, gyda gofal a chefnogaeth staff Akany Avoko, yn 2006 llwyddodd i ennill gradd meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.
Yn 2015, fe’i hapwyntiwyd yn gyfarwyddwr Akany Avoko Faravohitra. Bu’r ganolfan ar gau yn y cyfnod cyn iddi gymryd drosodd ond gweithiodd Hanta’n galed, gan gychwyn gyda’r gwaith ailadeiladu ac yna fwrw ymlaen gyda’r gwaith gweinyddol. Ail-agorodd y lle ym mis Mawrth 2016 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Datblygodd Hanta sawl prosiect cydweithio gyda phartneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwyd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Yn ystod ei hamser yn AAF gofalwyd am 368 o blant agored i niwed – merched gan mwyaf – yn y ganolfan. Addysgwyd 295 o ferched mewn ysgolion o amgylch y ganolfa, ymgymerodd 40 o bobl ifanc mewn hyfforddiant galwedigaethol, gyda 29 o ferched yn derbyn diploma gwladol. Hyfforddwyd eraill yn y ganolfan ei hun.
Pan gyrhaeddodd Hanta yn y ganolfan dim ond 2 addysgwr oedd ar y staff, bellach y mae 14 addysgwr parhaol yno. Cwblhawyd gwaith adnewyddu yn y ganolfan gan gynnwys trawsnewid yr hen garej i fod yn llyfrgell ac ystafell gyfarfod, hefyd adeiladwyd toiledau ar gyfer y plant ac ar gyfer staff, a gosodwyd system biomas yn ei le. Mae’r ystafelloedd cysgu, y ffreutur a’r caffi menter-micro wedi’u cwblhau ac yn gyflawn weithredol.
Llwyddiant rhai o’r cyfarnogwyr
Mae’r plant yn derbyn datblygiad ysbrydol ardderchog yno ynghyd ag addysg dda, dyma gychwyn cadarn iddyn nhw ar gychwyn eu bywydau ac mae llwyddiannau’r plant yn tystio i’r gwaith gwych gaiff ei gyflawni gan bawb sydd ynghlwm ag Akany Avoko Faravohitra. Bydd y plant yn ffynnu ac yn tyfu i fod yn oedolion hardd fydd yn barod i gyfrannu’n adeiladol i fywyd ym Madagascar.
Wrth i’r argyfwng costau byw wasgu’n galed ym Madagascar, byddai Hanta’n gwerthfawrogi’r parhad yn y cariad a’r gweddïau, a’r gefnogaeth ymarferol ddaw o Gymru yn fawr iawn, ac yn wir gan unrhyw rai a hoffai aros gyda hi ar y cam nesaf yn ei chenhadaeth.