Cafodd Tom Price dipyn o sypréis yn ystod oedfa Sul y Pasg wrth i’r eglwys ddymuno’n dda iddo ar gyrraedd 50 mlynedd o wasanaeth fel diacon ar y Tabernacl, Porth-cawl. Yn ystod Pasg 1972 fe godwyd Tom fel diacon, yn ddyn ifanc (sydd yn dal i fod yn ifanc, sylwch).

Diolchwn iddo am flynyddoedd o wasanaeth ond am y blynyddoedd sydd i ddod hefyd wrth iddo barhau a’i swydd fel diacon. Ynghyd â chyfarchiad gan y gweinidog a’r cyn-weinidog Rosan Saunders fe gafwyd englyn arbennig gan John Elfed i nodi’r achlysur:

 

Un addfwyn, parod ei gymwynas, – un

Sy’n hynod fel plwyfwas,

  Yn holl waith ‘Y Gymdeithas’

  Hwn roddodd iddi urddas.

 

Dylan Rhys

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.