Bydd dathlu pen-blwydd Undeb yr Annibynwyr yn 150 oed yng Nghaerfyrddin eleni yn achlysur i’w gofio. Cafodd taith y Llywydd cyntaf, Gwilym Hiraethog, ei ail greu ar fideo a fydd yn rhan o’r Cyflwyniad Croeso. Dyma fe’n mynd i holi’r gyrrwr os oedd y trên o Lerpwl ar amser!
Cofiwch ddod i’r cyfarfodydd, prynhawn 7 Gorffennaf tan amser cinio ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf. A beth am aros ymlaen? Fe fydd Gŵyl Canol Dref Caerfyrddin ar bnawn Sadwrn – achlysur bywiog i ddathlu ein Cymreictod gyda stondinau, cantorion ac ati. Yna, ar bnawn Sul am 2pm cynhelir Gŵyl Sul Sbesial Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin. Y siaradwr gwadd yn yr Egin, canolfan S4C, fydd neb llai na Huw Edwards BBC. Mwy o fanylion i ddilyn.