Oeddech chi’n gwybod bod Cymorth Cristnogol yn 80 oed eleni?

Ers wyth degawd, rydyn ni wedi bod yn fynegiant o ffydd yng ngrym anorchfygol gobaith i greu byd mwy cyfiawn a heddychlon. Rwy’n dweud ‘ni’, oherwydd mae Cymorth Cristnogol yn fudiad anhygoel o bobl a phartneriaid – mudiad y mae sawl cymuned yma yng Nghymru wedi bod yn rhan ohono o’r cychwyn cyntaf fwy neu lai.  

Mae hi’n cymryd tipyn o ymrwymiad i gynnal gwaith fel hwn dros y degawdau, ac mae’r ffyddlondeb i weledigaeth y mudiad yn rymus ymhlith unigolion, eglwysi a chymunedau heddiw. Efallai na ddylai hyn ddim bod yn syndod. Mae’r gwaith wedi ei sefydlu ar ffydd yng ‘ngrym anorchfygol gobaith’, a dyma eiriau neu ymadrodd a glywch yn ystod y flwyddyn.  

Diolch i gefnogaeth ffyddlon at y gwaith, y llynedd drwy 260 o bartneriaid, cyrhaeddwyd 4.5 miliwn o bobl drwy gannoedd o brosiectau – o grwpiau arbed a chynilo i sefydlu dulliau ffermio cydweithredol, o hyfforddiant i leihau risg trychinebau hinsawdd i waith iechyd. Rydym yn hynod ddiolchgar am ymateb hael eglwysi Cymru i’r gwaith dyngarol yn Gaza ac ar draws y Dwyrain Canol, lle mae ein partneriaid yn parhau i roi cefnogaeth sy’n achub bywydau pobl gyffredin yng nghanol y gwrthdaro. Nawr, yn dilyn Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol, a dynnodd sylw at sefyllfa druenus ffoaduriaid yn Ne Swdan, rydym wedi lansio Apêl Argyfwng Swdan ddiwedd Ionawr i helpu rhagor o bobl sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd gwrthdaro ac sy’n wynebu bygythiadau pellach o newyn ac afiechyd.  

Mae’r alwad i weithredu dros gyfiawnder cyn gryfed ag erioed. Hoffem estyn gwahoddiad i bawb eleni – yn unigolion, teuluoedd, eglwysi a chymunedau – i nodi pen-blwydd arbennig Cymorth Cristnogol mewn rhyw ffordd. Wrth i ni ddiolch am ymrwymiad diwyro ein heglwysi a’n cymunedau, dyma gyfle i ailymrwymo i’r gwaith heddiw i greu dyfodol gwell i holl bobl Dduw. Bydd nifer o adnoddau arbennig i nodi pen-blwydd Cymorth Cristnogol yn 80 ar gael cyn bo hir.  

Diolch am fod yn rhan o’r mudiad hwn o bobl, eglwysi a mudiadau lleol sydd yn eiriol dros urddas, cydraddoldeb, cyfiawnder a chariad. Dyma ychydig o bethau i godi calon ac i’w nodi yn y dyddiadur dros y misoedd nesaf.  

Adroddiad Our Year of Impact  

Bydd yr adroddiad bach lliwgar Our Year of Impact yn codi calon ac yn eich annog i weithredu yn erbyn tlodi yn 2025. Sylwch ar stori her tri chopa Iwan Williams y llynedd er cof am ei nain, Irene Williams, a fu’n sbardun i rai o grwpiau gweithredu cyntaf Cymorth Cristnogol yng Nghymru.  

Hanner Marathon Caerdydd  

Mae gennym 10 lle os hoffech ymuno â thîm Cymorth Cristnogol Cymru ym mis Hydref 2025. Gellir cofrestru ar wefan Cymorth Cristnogol 

Taclo Tlodi adeg y Grawys  

Mae’r cwrs chwe wythnos hwn wedi’i gynllunio gyda phartneriaid anhygoel yn y Deyrnas Unedig er mwyn helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o dlodi a magu hyder i drafod y mater gyda chynrychiolwyr gwleidyddol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y Grawys ac ar gael yn llawn yn Gymraeg.  

E-newyddion Cymorth Cristnogol Cymru  

I dderbyn diweddariadau gan Gymorth Cristnogol Cymru, mi fedrwch gofrestru i dderbyn ein neges e-bost newydd, a fydd yn cael ei hanfon atoch bob mis neu ddau. Ewch i dudalen hafan y wefan a sgrolio i lawr i’r gwaelod, ac yn y gornel dde, fe welwch ‘Receive updates about our work’: www.christianaid.org.uk  

 

Mari McNeill  

Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru 

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.