Beth yw eich breuddwyd? Am beth ydych chi’n gobeithio amdano?
Mae Jen Bishop, mam gariadus ym Malawi, yn breuddwydio y caiff ei phlant yr addysg y maent yn ei haeddu. Mae ei meibion wedi gweithio’n galed i ennill llefydd mewn colegau da – ond all Jen ddim fforddio anfon y ddau ohonynt.
Ni ddylai’r un fam orfod gwneud dewis anodd fel hwn ynghylch pa blentyn i’w addysgu a pha un fydd yn gorfod hepgor ei freuddwydion.
O amgylch y byd, mae costau bwyd ac angenrheidiau eraill uchel yn chwalu breuddwydion ac yn cadw pobl mewn tlodi difrifol. Ym Malawi, mae pris bwyd, tanwydd, gwrtaith a ffioedd addysg wedi dyblu yn y 12 mis diwethaf. Mae’r argyfwng hinsawdd yn golygu bod ffermwyr yn ymdrechu i oroesi. Mae cnydau’n methu wrth i sychder, llifogydd a stormydd daro.
Mae Jen a’i theulu’n talu’r gost gyda’u bywyd, eu breuddwydion, eu dyfodol. Mae’n warthus. Ond mae gobaith wrth inni uno'r Wythnos Cymorth Cristnogol hon.
Mae Jen yn gwneud y cwbl y gall hi i ennill arian ar gyfer addysg ei phlant. Mae’n tyfu cnwd gwyrthiol - pys colomennod. Ond heb help, mae’n colli elw i farchnatwyr diegwyddor, sy’n dwyn y gallu i ofalu am ei phlant oddi arni.
Meddai Jen: ‘Mae nghalon i’n ysu gweld fy mhlant yn gorffen eu hysgol. Mae’r breuddwydion hyn yn bwysig iawn i mi, oherwydd wrth iddynt gwblhau eu haddysg, rwy’n siŵr y byddaf yn creu dyfodol gwell i’r plant.’
Gyda’ch cefnogaeth chi'r Wythnos Cymorth Cristnogol hon, gall Jen cymryd y cam nesaf allan o dlodi.
Eich Wythnos Cymorth Cristnogol chi
Chi sy’n penderfynu sut Wythnos fydd hi. Sut bynnag y byddwch yn casglu neu’n dathlu, mater i chi ydyw.
Ydych chi am wneud rhywbeth arbennig gyda’ch ffrindiau a’ch eglwys y Mai hwn?
Gallwn ni eich helpu i gynllunio. Ewch i caweek.org.uk/diy i ganfod adnoddau ychwanegol a gwybodaeth, yn cynnwys
- Syniadau codi arian
- Posteri i’w golygu
- Storïau ysbrydoledig gan gyd gefnogwyr
- Canllawiau