'Wel am gyngerdd bendigedig,’ oedd ymateb y gynulleidfa wrth iddynt adael y cyngerdd er budd apêl daeargryn Twrci a Syria ar nos Fercher, 12 Gorffennaf. Cynhaliwyd y cyngerdd yn yr eglwys Fethodistiaid, yr Eglwys Newydd.

Mwynhaodd y gynulleidfa noson hyfryd yng nghwmni Côr Canna a’r gantores Parisa Fouladi. Cafwyd anerchiad gan Cynan Llwyd, Trefnydd Tearfund Cymru, am yr angen dirfawr sydd yn parhau yn Nhwrci a Syria yn sgil y ddaeargryn a darodd y ddwy wlad ym mis Chwefror eleni. Rhannodd Cynan beth o hanes dirdynnol y dioddefaint enbyd fu yn sgil y ddaeargryn, a’r angen difrifol am adnoddau sylfaenol ar gyfer bywyd bob dydd.

Arweiniwyd y noson yn hwylus iawn gan y Parchedig Alun Tudur, gweinidog eglwys Ebeneser. Yno yn yr eglwys Fethodistiaid y cynhelir oedfaon prynhawn Sul Ebeneser.

Côr Canna

Swynwyd y gynulleidfa gan leisiau’r côr dan arweiniad Delyth Medi Lloyd a’r gyfeilyddes, Kim Lloyd Jones. Cafwyd arlwy cerddorol oedd wrth ddant pawb, gyda detholiad o ganeuon amrywiol, yn cynnwys ambell emyn, caneuon pop, a chaneuon clasurol. Cafwyd unawd gan Eiriana Jones-Campbell ac fe ganodd hi hefyd ddeuawd gyda’i mam Lona. Mae’r côr llwyddiannus hwn yn ymarfer ar hyn o bryd ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

Parisa 

Mae Parisa Fouladi yn gantores sy’n mynd o nerth i nerth, ac yn gwneud enw i’w hun ar y Sin Roc Gymraeg. Mae hi’n perfformio mewn nifer o wyliau’r haf gan gynnwys Tafwyl a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi ar fin rhyddhau EP newydd ac mae ei chaneuon i’w clywed yn aml ar Radio Cymru. Perfformiodd Parisa bedair cân yn ystod y cyngerdd, pob un ohonynt ag arwyddocâd personol. Canodd un o’i chaneuon yn y Gymraeg a Farsi, iaith Iran, gwlad enedigol ei thad. Gellir gwrando ar ei chlasur ‘Lleuad Du’ ar Spotify.

Diolchodd Alun Tudur i Gôr Canna a’u harweinydd Delyth Medi Lloyd, i’r gyfeilyddes Kim Lloyd Jones, i Parisa Fouladi a’i chyfeilydd Charlie am eu perfformiadau, a diolchodd i bawb am gefnogi’r noson. 

Pwrpas y noson oedd codi arian at Apêl DEC, Daeargryn Syria Twrci. Llwyddwyd trwy gyfrwng y digwyddiad hwn i godi dros £1,800 tuag at yr apêl, er budd yr elusennau sy’n gweithio’n ddiwyd yn Nhwrci a Syria ac sy’n cynnig gobaith i’r trigolion lleol. 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.