Un o’r cynlluniau arloesol a noddir gan Gynllun Buddsoddi ac Arloesi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yw Angor, Grangetown, Caerdydd. Y mae hwn yn digwydd o dan adain eglwys Ebeneser ac yn rhan o’n gweledigaeth i gyrraedd rhagor o’r 35 mil o Gymry Cymraeg sy’n byw yn y brifddinas.
Ein gweledigaeth yn y pendraw yw sefydlu cynulleidfa, Grist-ganolog, gyfoes yn Grangetown. Er y nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, 10.2% yn ôl Cyfrifiad 2011, nid oes eto eglwys Gymraeg sy’n gwasanaethu’r gymuned. Fe olyga hynny fod dros 2,000 o’r boblogaeth yn y rhan hon o’r ddinas yn siarad Cymraeg. Wrth inni gychwyn ar y gwaith hwn fe sylweddolwn, yn y dyfodol agos, y bydd rhaid cychwyn gweithgareddau Cristnogol Cymraeg mewn llawer i ardal lle mae’r dystiolaeth Gristnogol wedi darfod. Gobeithiwn y bydd ein profiadau ni o fantais ac anogaeth i Gristnogion eraill.
Bu’r flwyddyn ddiweddaf (2022) yn un heriol. Caeodd Lufkin Coffee, y man cyfarfod gwreiddiol, yn gwbl ddirybudd ym mis Chwefror a buom am dros ddau fis heb fan cyfarfod addas. Rydym yn credu bod lleoliad, naws a hygyrchedd y man cyfarfod yn bwysig i’n cenhadaeth er mwyn denu teuluoedd a chenhedlaeth iau. Ond ym Mis Ebrill fe gafwyd lleoliad newydd, addas, sef, canolfan Reach, Grangetown. Mae hon yn ganolfan sy’n cael ei defnyddio gan y gymuned leol ac felly yn dod a ni i gysylltiad â mudiadau a phrosiectau eraill.
Er yr anghyfleustra fu y mae Angor Grangetown wedi parhau i gyfarfod yn wythnosol gyda chwrdd gweddi a chyfarfod o fawl pob yn ail Sul. Hoffem ddiolch i’r Undeb am y nawdd yr ydym wedi ei dderbyn sydd wedi bod yn help aruthrol i’r gwaith ac i’n gweledigaeth hirdymor. Erbyn hyn y mae rhswng 12 a 30 yn dod i’r cyfarfodydd yn gyson. Hoffem gyfeirio yma at elfennau heriol a chadarnhaol sydd i’r gwaith.
Heriau
Oherwydd natur yr hyn a wnawn y mae’n anodd meithrin cysondeb presenoldeb yn y rhai sy’n ymuno â ni. Daw rhai wrth gwrs yn gyson, daw eraill yn achlysurol tra bydd rhai yn dod unwaith. Y mae hyn yn effeithio ar ein paratoadau o ran lluniaeth a gwaith plant. Ni wyddom o wythnos i wythnos pwy ddaw. Hefyd oherwydd ein bod yn targedu oedolion ifanc a theuluoedd, fe olyga bod llawer o fynd a dod yn eu hanes. Y mae patrwm cymdeithasol teuluoedd yn llawer mwy hylifol nac y bu yn y gorffennol.
Llwyddiannau
- Rydym wedi llwyddo i gyrraedd rhai teuluoedd sydd ddim yn mynychu unrhyw le o addoliad yng Nghaerdydd.
- Rydym yn fwriadol wedi mynd ati i feithrin arweinyddion newydd, fel rhan o’r tîm trefnu ac i arwain cyfarfodydd un ai trwy, weddïo, darllen, rhannu profiad, arwain addoliad, technegau neu bregethu, e.e. buom yn annog gŵr ifanc, oedd â doniau cerddorol i fod yn fawlweinydd. Tros gyfnod aeddfedodd ei ddoniau ac er mawr lawenydd inni dros yr haf fe’i penodwyd gan gylch o eglwysi cydenwadol yn Llundain i gyflawni gwaith plant ac ieuenctid. Hyderwn y bydd yn dychwelyd yn ôl i Gymru yn fuan gyda phrofiad ychwanegol i wasanaethu’r Arglwydd. Enghraifft arall o hyn yw bod menyw yn ei dauddegau wedi dechrau pregethu yn ddiweddar a hynny trwy anogaeth a chefnogaeth Angor. Mae hyn wedi bod yn wych.
- Yn nhymor yr Adfent cynhaliwyd noson garolau yng nghanolfan y Pavilion pryd y daeth criw o bobl leol a chyfeillion i ddathlu. Gwelwn y digwyddiadau hyn fel cyfle i gymdeithasu a gwneud cysylltiadau gyda Chymry Cymraeg Grangetown a hefyd i gydweithio gydag eglwysi eraill. Yn syml, mae pobl o bob math yn hoff iawn o’r Nadolig. Hefyd daeth Meilyr Geraint atom i gynnal oedfa Nadoligaidd oedd yn dathlu geni gwyrthiol y Meseia Iesu ac yn cyhoeddi’n llawen y newyddion da ddaeth ynddo Ef.
Gobeithiwn yn ystod y misoedd nesaf i barhau gyda’n gweithgareddau i dystio i’r Arglwydd Iesu yn egnïol. Yn y tymor canolig hoffem ddatblygu ein gwaith gyda phlant trwy sefydlu clwb plant fydd yn cynnwys clwb yn ystod gwyliau ysgol. Cynnal rhagor o weithgareddau cymdeithasol eu naws er mwyn dod i adnabod pobl yn well. A hefyd ymateb i’r angen cymdeithasol sydd yn Grangetown e.e. tlodi bwyd a thanwydd mewn cydweithrediad ag Ebeneser.
Meddai wrthyn nhw, ‘Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i’w feysydd.’
(Luc 10:2)