Cynhaliwyd gwasanaeth a’r 6 Rhagfyr i ddathlu dau gan mlynedd a hanner sefydlu yr achos yng nghapel Ebenezer, Llangybi, Cyfundeb Ceredigion. Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.

Cyflwynwyd darlleniad a gweddi bwrpasol i’r achlysur arbennig gan y Parchedig Ganon Aled Williams.

Fe gyflwynwyd crynodeb o hanes yr achos gan Mr Lyndon Lloyd MBE. Aeth a ni yn ôl cyn belled â chyfnod y Cilgwyn yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Diddorol oedd clywed yr hanes a’r cysylltiadau oedd gan Ebenezer â chapeli eraill yn yr ardal.

Hyfrydwch o’r mwyaf i ni oedd cael croesawu plant yr ysgol leol sef Ysgol y Dderi atom i fod yn rhan o’r dathliad. Cymerwyd rhan gan y plant trwy ganu cân yn wych ac roedd pawb oedd yn bresennol wedi gwerthfawrogi eu cyfraniad.

Roedd neges bwysig gan y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor am y pwysigrwydd o edrych yn ôl. Trwy wneud hynny y mae yn rhwyddach deall y sefyllfa bresennol. Pwysleisiodd ei bod yn hanfodol ein bod ar achlysur fel hwn yn edrych ymlaen at y dyfodol gan ystyried o ddifrif yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd a sut i ymateb orau iddynt wrth i ni gyflawni gwaith yr Arglwydd Iesu. Braf oedd gweld bod cymaint o aelodau eglwysi’r ardal wedi mynychu’r gwasanaeth. Gwerthfawrogid hyn yn fawr iawn gan aelodau Ebenezer.

 

Lluniaeth

I ddilyn y gwasanaeth roedd lluniaeth blasus wedi ei ddarparu yn y festri. Yno cafwyd cyfle i fwynhau a chymdeithasu gyda’n gilydd mewn awyrgylch gynnes a hwyliog. Roedd yna gacen arbennig wedi ei gwneud gan Janice Williams. Mi wnaeth Ann Davies addurno’r gacen gyda llun o’r capel. Torrwyd y gacen gan Beryl Davies a hithau hefyd oedd yn gyfrifol am greu y darlun hyfryd o’r capel.

Mae aelodau Ebenezer yn ddiolchgar i ffrindiau’r capel a fu yn helpu gyda’r paratoadau.

Karine Davies

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.