Yn ystod mis Mehefin mae 5 Annibynwr yn teithio i Durban i fod yn rhan o Gymanfa CWM.
Dyma'r 5: Dylan Rhys, Penybont ar Ogwr ( ein cynrychiolydd yng nghyfarfod blynyddol aelodau CWM dros y tymor diwetha o 4 blynedd,) Eleri Mai Thomas, Tabernacl, Efailisaf, ( ein cynrychiolydd yng nghynhadledd y merched) Tomos Edwrads, Hen Gapel, Llanuwchllyn, ( ein cynrychiolydd yng nghynhadledd yr ifanc) a'r Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol.
Mae'r Parchg Jill- Hailey Harries, Abertawe yn bresennol hefyd fel aelod o Fwrdd CWM dros y tymor diwetha o 4 blynedd.
Oherwydd y pandemig methodd y Gymanfa a chyfarfod yn Johannesburg yn 2020, felly, bydd dod ynghyd eleni, wedi bwlch o wyth blynedd, yn dipyn o gyffro a gwefr i deulu CWM, â ninnau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn un o’r 32 aelod.
Gellir gwylio'r cyfarfodydd, yr oedfaon a'r gweithgareddau wrth edrych ar y ffrwd fyw: