Robat Idris sydd wedi ei ethol fel cadeirydd newydd i Gymdeithas y Cymod yn ystod cyfarfod flynyddol y mudiad.
Ynghyd ac ethol Cadeirydd, mae’r mudiad hefyd wedi ethol is-gadeirydd mewn Elin Hywel. Mae Elin yn gynghorydd Plaid Cymru i Ogledd Pwllheli.
Fel cyn is-gadeirydd y mudiad, bydd Rob Idris yn olynu Rhun Dafydd fel Cadeirydd. Ar ôl tair blynedd wrth y llyw ac fel Cadeirydd ieuncaf erioed Cymdeithas y Cymod, mae ei gyfnod wedi dod i ben.
Yn hanu o Ynys Môn mae gan Rob Idris profiad hir o ymgyrchu dro gyfiawnder yng Nghymru gan gynnwys gyda mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a PAWB.
Gyda rhaniadau ar gynnydd o fewn ein cymunedau heb sôn am yr hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol, Wcráin, Swdan a sawl man arall ar draws y byd. Mae’n bwysicach fyth bod mudiadau fel Cymdeithas y Cymod yn parhau i hyrwyddo heddwch a chymodi
Wrth gael ei ethol dwedodd Elin Hywel “Rwy’n hynod falch o gael fy ethol yn is-gadeirydd Cymdeithas y Cymod. Yn yr oes ddiweddar mae rhyfeloedd a gwrthdaro wedi cael effeithiau hir dymor a di droi’n ôl ar ein byd a’i holl drigolion. Wrth i ni dystio i golled dynoliaeth ym mhob cwr o’r byd, a hynny drwy weithredu neu drwy ddiffyg gweithredu, dylai'r alwad am gymodi fod yn groch. Serch hyn, ar fachlud dydd dynoliaeth does fwy na sibrwd heddwch ar wefus pŵer. Felly, mae'r mudiad yn bwysicach nac erioed, ac yn cynnig dyfodol amgen a gobaith yn y fagddu.
Ychwanegai, Rob Idris “Daw sialensiau ymhob cyfnod, ond ar hyn o bryd ymddengys fod sialensiau yn cynyddu a phwerau’r fall yn cryfhau. Ar brydiau mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Ond mynnwn godi llais dros Gymod a Heddwch.
Mae gwrthdaro a rhyfeloedd nid yn unig yn lladd ac yn dinistrio bywydau a diwylliannau, ond hefyd yn dinistrio amgylchedd fel bod yr argyfwng newid hinsawdd yn dwysau.
Tynged Palesteina, Wcrain, Congo, Swdan, Maghreb, Yemen, Libya, Syria a sawl lle arall yw tynged y blaned yn y pendraw, heb i bethau newid. Dim ond drwy siarad a thrafod mae cymodi a datrys problemau.
Gall y pethau hyn ymddangos ymhell oddi wrthym, ond y gwir yw bod angen darbwyllo Cymru na ddylid cefnogi'r diwydiant arfau a rhyfel – ymdrechwn i greu cyfleoedd gwaith sydd er lles dynolryw ac amgylchedd.
Hoffwn weld Cymdeithas y Cymod yn ymestyn y cysylltiadau gwerthfawr efo eraill sy’n eiriol dros Gymod a Heddwch, fel bod ein gwahanol leisiau yn cael eu clywed ac yn gwneud eu rhan i lywio y ddynoliaeth tua’r harbwr diogel”
Mae Rob ac Elin bellach wedi dechrau eu cyfnod tair blynedd ar bwyllgor gwaith yn fudiad