Mae Cymdeithas y Cymod yn annog ar bobl i ofyn cwestiynau dros heddwch a chyfiawnder i ymgeiswyr lleol yn ystod yr Etholiad cyffredinol.

Mae’r cwestiynau wedi ei baratoi i etholwyr i holi ymgeiswyr wrth iddynt ganfasio ar ei stepen drws. Gyda rhaniadau ar gynnydd o fewn ein cymunedau heb sôn am yr hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol, Wcráin, Swdan a sawl man arall ar draws y byd. Mae’n bwysicach fyth bod materion dros gyfiawnder yn cael blaenoriaeth o fewn Llywodraeth nesaf y DU.

Gyda nifer fawr o bolisïau sy’n medru dylanwadu ar greu Cymru a byd mwy heddychlon heb ei ddatganoli, mae’r etholiad Llywodraeth DU yn gyfle i bwyso ar ymgeiswyr i wneud ymrwymiad dros heddwch a chymodi. 

Mae themâu'r cwestiynau yn amrywio o’r angen am gydnabod Palestina fel gwladwriaeth i adeiladu ar broses heddwch yn y dwyrain canol i bolisi cyfredol Weinyddiaeth Amddiffyn yn parhau i recriwtio plant dan 18 i’r fyddin.

Mae’r mudiad wedi llunio pum cwestiwn isod, gyda’r cwestiynau ceisio bod yn gyffyrddadwy er mwyn sicrhau atebion pendant gan yr ymgeiswyr a’r pleidiau gwleidyddol.

Dwedodd Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, Rhun Dafydd “Gyda’r etholiad cyffredinol yn ei anterth, mae’n gyfle euraidd i gadw gwleidyddion yn atebol wrth iddynt edrych am bleidlais. Mae’r angen am ddechrau buddsoddi yn y broses o heddwch yn ei angen mwy nag erioed a gobeithio bydd y cwestiynau yma yn herio meddwl y darpar ymgeiswyr”

Mae partner Cymdeithas y Cymod, Heddwch ar Waith hefyd yn holi ymgeiswyr ym mhob etholaeth yng Nghymru drwy anfon holiadur ar heddwch iddynt. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chymdeithas y Cymod yn uniongyrchol.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.