Oedfa’r Llywydd Newydd

Posted on

Yn enedigol o Nantglyn, Sir Ddinbych, cafodd Glyn Williams ei fagu ar fferm a threuliodd ei yrfa ym myd amaeth. Bu’n gweithio gyda’r Bwrdd Marchnata Llaeth a chwmni Genus gan ymddeol ar ddiwedd y 1990au. Bu hefyd yn Ynad Heddwch ar fainc y Trallwng. Mae Glyn a’i wraig Dilys bellach yn byw yn Llandudno ac yn aelod yn y Capel Coffa, cyffordd Llandudno lle mae’n ddiacon. Cwblhaodd Glyn Williams gwrs ar gyfer y weinidogaeth gyda’r Annibynwyr ac mae’n cynnal gwasanaethau mewn amrywiol eglwysi yn ôl y galw.

Llywydd hen a newydd

Trosglwyddwyd y swydd iddo, ynghyd â Beibl y Llywydd, gan y cyn-Lywydd y Parchg Ddr R.Alun Evans, mewn oedfa arbennig yn yr Hen Gapel, Llanuwchllyn ar bnawn Sadwrn 2 Gorffennaf, 2016.

Braint Aruthrol

Anerchiad y Llywydd.2

“Mae bod yn Llywydd yr Annibynwyr yn fraint aruchel,” meddai Glyn. “Gobeithio y gallaf, drwy nerth Duw, gyflawni’r amryw ddyletswyddau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld ag Annibynwyr ymhob rhan o Gymru a thu hwnt, yn ogystal â chydweithio gydag enwadau eraill, yn ystod y ddwy flynedd.” Cadw’r tân i losgi oedd testun ei anerchiad yn Oedfa’r Llywydd yn yr Hen Gapel, Llanuwchllyn ar ddiwrnod ola’r Cyfarfodydd Blynyddol. Cafodd ei ysbrydoliaeth o adnod yn Lefiticus (6:13) “Rhaid cadw’r tân i losgi’n barhaol ar yr allor; nid yw i ddiffodd”.

Y Sialens

“Onid dyna’r sialens i ni fel Cristnogion ac addolwyr yn yr unfed ganrif ar hugain?” gofynnodd Glyn Williams. “Mae’r mwyafrif ohonom sydd yma heddiw wedi gweld dirywiad enfawr dros y blynyddoedd yn y niferoedd sy’n mynychu llefydd o addoliad,” meddai. “Ni fuaswn yn sefyll yn y fan hon heddiw oni bai am y fagwraeth a gefais. Roedd y bywyd Cristnogol ac addoliad yn ganolog iawn ym mywyd fy hynafiaid, y fflam yn llosgi’n gryf a hwythau’n ceisio sicrhau nad oedd yn diffodd. Beth, felly, am y fflam heddiw? A ydym fel Cristnogion yr unfed ganrif ar hugain yn mynd i eistedd yn ôl a gadael iddi ddiffodd?

cynulleidfa oedfa'r llywydd

Ffyddlondeb yn beth prin

“Nid yw’n gyfrinach fod ffyddlondeb i bethau Duw wedi cilio mewn llawer man yn ein cyfnod ni, meddai Glyn. “Mae’n beth hynod brin erbyn hyn. ‘Ffyddlondeb’ sy’n peri fod pobl yn dangos parodrwydd i aberthu, i gysegru eu doniau a’u hamser i’r Duw sydd wedi eu caru ac sy’n dal i’w caru o hyd. Ni all neb fod yn hanner ffyddlon. Mae’r gair yn golygu ymroi’n llwyr, a rhoi’r cyfan.Boed i ni fod yn bobl felly, yn gynulleidfaoedd felly, yn eglwysi felly, a Duw a roddo i ni nerth ac arweiniad i wynebu’r dyfodol gyda hyder a gobaith er mwyn i ni fedru sicrhau y bydd tân yr allor yn parhau i losgi.”

Mae copi llawn o anerchiad y Llywydd newydd ar gael o Dŷ John Penri am £2.