Swyddog Eco-Eglwys newydd i helpu i roi hwb i’r gweithredu ynghylch byd natur a’r hinsawdd mewn eglwysi ledled Cymru
Mae Delyth Higgins wedi ymuno â’r elusen gadwraeth Gristnogol, A Rocha UK, yn swyddog Eco-Eglwys i Gymru. Mae Delyth yn ymuno â ni ar adeg pan fo galw cynyddol am y cynllun Eco-Eglwys (Eco Church) wrth i fwy o eglwysi ofyn am gymorth i gymryd camau ymarferol i ofalu am ddaear Duw. Mae Delyth yn medru’r Gymraeg ac yn byw yn Abertawe. Yn flaenorol, bu’n gweithio gydag Adfywio Cymru (Renew Wales), y rhaglen genedlaethol sy’n cefnogi grwpiau cymunedol i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Mae nifer sylweddol yng Nghymru wedi ymuno â’r cynllun Eco-Eglwys, ac mae mwy na 150 o eglwysi wedi cofrestru. Mae’r adborth gan yr eglwysi hyn wedi amlygu’r galw am bresenoldeb mwy rhanbarthol er mwyn cydlynu digwyddiadau, rhwydweithiau, a hyrwyddo’r cynllun.
Nod A Rocha UK yw ehangu a dyfnhau cwmpas y cynllun Eco-Eglwys yng Nghymru. Y gobaith yw y bydd mwy o eglwysi o wahanol feintiau ac enwadau yn cofrestru gyda’r cynllun.
Mae Cymru’n gartref i eglwysi mawr mewn dinasoedd sy’n tyfu, ond hefyd i gapeli a phlwyfi traddodiadol bychain yn y wlad, ac mae Delyth yn gobeithio annog llawer ohonynt i ddod yn Eco-Eglwysi.
Bydd yr Eglwysi yn elwa o ddysgu ar y cyd, cefnogaeth, syniadau ac adnoddau, yn ogystal â siarad â’r rhai sydd eisoes wedi gwneud rhywbeth tebyg. Mae adnoddau Eco-Eglwys newydd ar gael eisoes yn Gymraeg, a bydd Delyth yn adeiladu ar y rhain, yn ogystal â gallu cynnig mwy o sgyrsiau a digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae A Rocha UK yn gweithio i ddiogelu ac adfer byd natur trwy alluogi Cristnogion ac eglwysi yn y Deyrnas Unedig i ofalu am yr amgylchedd fel rhan reolaidd o’u bywyd unigol a chenhadaeth eu heglwys.
Meddai Delyth: ‘Ers symud tŷ dair mlynedd yn ôl, rwy wedi dod yn fwy ymwybodol fyth o fyd natur, ac rwy’n ymddiddori yn yr amrywiaeth aruthrol o adar rwy’n eu gweld yn dod i’r ardd a’r golygfeydd hardd tua’r mynyddoedd yn y gogledd – ym mhob un o’r tymhorau wrth iddyn nhw newid. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r bobl ar draws Cymru sydd wedi cychwyn ar y cynllun Eco-Eglwys, sy’n gwneud hynny’n awr, ac a fydd yn gwneud hynny, ac yn arbennig at feithrin perthynas a rhwydweithiau ymhlith eglwysi ledled Cymru, fel bod modd iddyn nhw ddysgu oddi wrth ei gilydd, cefnogi ei gilydd ac annog ei gilydd.”
Meddai Helen Stephens, Rheolwr Cysylltiadau Eglwysi yn A Rocha UK: “Rydyn ni’n awyddus i hyrwyddo a gwreiddio Eco-Eglwys yn ddyfnach ledled Cymru, gan ein bod yn cydnabod bod heriau unigryw mewn gwahanol rannau o’r wlad. Felly rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Delyth Higgins i A Rocha UK er mwyn ehangu a dyfnhau gwaith Eco-Eglwys yng Nghymru, ar adeg pan na fu erioed fwy o frys i’r Eglwys gyflawni ei rôl (ochr yn ochr â sectorau eraill y gymdeithas) wrth ofalu am ein planed werthfawr.
Mae hi’n dod â dealltwriaeth a doethineb o’i blynyddoedd yn Adfywio Cymru, lle bu eisoes yn gweithio gydag eglwysi ar y newid yn yr hinsawdd, a chan ei bod wedi byw yng Nghymru ar hyd ei hoes, mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o’r diwylliant. Mae hi’n ymuno â thîm Eco-Eglwys prysur iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi.”