Dyma beth oedd Sul Sbesial yng ngwir ystyr y gair.
Fe’i cynhaliwyd ar y Sul olaf Medi 2024 yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Cafwyd cyfle i addoli a mwynhau holl atyniadau rhagorol Gwersyll yr Urdd, Llangrannog a hynny trwy garedigrwydd Cyfundeb Ceredigion a chymorth trefnwyr y Sul Sbesial.
Dan fendith y Duw goruchaf fe lanwyd neuadd chwaraeon, Gwersyll yr Urdd Llangrannog ag aelodau o eglwysi Cyfundeb Ceredigion gan gynnwys plant a phobl ifanc ysgolion Sul yr eglwysi lleol. Cymerwyd rhan gan ddisgyblion o ysgolion Sul Pencae, Llanarth; Glynarthen; Llwyncelyn; Pisgah, Talgarreg; Tabernacl, Pencader. Llywyddwyd yr oedfa foreol gan y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, ef hefyd agorodd y gair. Cymerwyd rhan gan y Parchedigion Gareth Ioan a Carys Ann a chyfeiliwyd gan Neville Evans. Wedi’r oedfa, mwynhawyd cinio blasus yn y Gwersyll cyn cynnull ar gyfer gwasanaeth yn y prynhawn. Gwerthfawrogwn yn fawr iawn gyfraniad Rhian Evans (allweddellau), Dafydd Llŷr Davies (drymiwr), Catrin Evans (yn arwain y canu) a’r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn cyflwyno neges i’r plant.
Diolch hefyd am gymorth ac arweiniad y Parchedig Carys Ann, Karine Davies a holl aelodau Sul Sbesial Cyfundeb Ceredigion. Tynnwyd lluniau arbennig o’r digwyddiadau gan Barri Adams, tynnwr lluniau medrus sy’n cynorthwyo papurau misol a dyddiol yng Ngheredigion. Credwn ei bod yn bwysig cofnodi dyddiau arbennig fel hyn ar gyfer y dyfodol. Gobeithir cynnal Sul Sbesial y Cyfundeb y flwyddyn nesaf eto ar Sul olaf Medi. Croeso i bawb i ymuno. Dewch yn llu i addoli a moliannu ein Harglwydd Iesu Grist.
Carys Ann