Dyma luniau ar gof a chadw o ddydd hyfryd a bendithiol iawn a fu yng Ngwersyllt yr Urdd, Llangrannog ar 25 Medi.
Daeth pawb at ei gilydd i brif neuadd Gwersyll yr Urdd, Llangrannog. Llywyddwyd y cyfarfod gan gadeirydd cwrdd chwarter Cyfundeb Ceredigion, y Parchedig Carys Ann. Yn gwasanaethu wrth yr organ oedd Rhian Evans, Glynarthen ac Euros Lewis, Felinfach fu’n annerch y dyrfa.
Diolchwn yn fawr iawn am gymorth a chefnogaeth barod holl ysgolion Sul y cyfundeb, y disgyblion a’u hathrawon, teuluoedd a ffrindiau. Gwerthfawrogir yn fawr iawn y cymorth ariannol a dderbyniwyd trwy grant gan Is-bwyllgor Cymraeg Dydd Gweddi’r Byd a Chyfundeb Ceredigion (trwy garedigrwydd, dymuniad a charedigrwydd cyfreithiol capel Tywyn, Ceinewydd)
Os Duw a’i myn, edrychwn ymlaen at eich gweld eto yn y Sul Sbesial fydd ar Sul olaf Medi 2023 sef 24 Medi.