O ganlyniad i law mawr a llifogydd ym mhrifddinas Madagascar, Antananarivo, fe’n syfrdanwyd yn fawr o glywed bod tirlithriad mawr wedi digwydd yr wythnos hon yn Akany Avoko Faravohitra, y ganolfan ar gyfer menywod ifanc a gefnogir gan UAC a MfM.
Mae’r ganolfan yn darparu lloches ddiogel ar gyfer merched a menywod ifanc a brofodd galedu ofnadwy yn ystod eu bywydau ifainc.
Gyda chefnogaeth gan roddwyr fel UAC a MfM, mae AAF yn gweithio gyda’r merched i gael mynediad at addysg a hyfforddiant ac i ailadeiladu eu bywydau.
Y mae ymdrech frys yn mynd rhagddi i wneud gwaith atgyweirio hanfodol i fur cynhaliol y ganolfan ac i atgyfnerthu amddiffynfeydd, er mwyn atal rhagor o ddifrod a llifogydd.
Y mae diogelwch 80 o ferched sy’n galw AAF yn gartref iddynt yn hanfodol bwysig. Bydd yn costio £2,000 i ailadeiladu’r mur cynhaliol ac i wneud y safle’n ddiogel unwaith yn rhagor.
Croesewir unrhyw gyfraniadau o unrhyw faint yn frwd iawn, wrth i ni weithio i gefnogi’n partneriaid yn AAF ar yr adeg argyfyngus hon.
MAKE A DONATION – Money for Madagascar
Gift Aid If you are a taxpayer then the Charity is able to reclaim an extra 25% on top of your donation, at no extra cost to yourself. To help us achieve this, please use the GIFT AID pdf form found here.