Mae podlediad misol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Y Cwmni Bach wedi bod yn mynd ers mis Hydref diwethaf ac erbyn hyn yna griw difyr wedi ymuno yn y cwmni i rannu sgwrs, i sôn ychydig am eu bywydau ac am y byd a’i bethau.
Yn y rhifyn diweddaraf o’r Cwmni Bach mae Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, yn ymuno i gael sgwrs. Mae Rhun, sy’n dod o Fro Morgannwg ac sydd â’i wreiddiau yn y gorllewin, yn rhannu hanes ei fywyd ac yn sôn am y ffaith ei fod yn argyhoeddedig mai llwybr heddwch yw’r unig ffordd ymlaen yn y byd hwn. Does dim ateb arall. Mae Rhun yn llais huawdl, ifanc a brwd dros ddod ynghyd a thrafod er lles pawb, mae’n dweud mai dyma’r unig ateb sydd i’r byd. Flwyddyn ers cychwyn y rhyfel yn Wcráin fe wyddom o’r gorau nad rhyfel yw’r ateb, i unrhyw beth.
Mae modd i chi wrando ar rifynnau blaenorol o’r Cwmni Bach drwy fynd i wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a chwilio am y podlediadau yno. Cafwyd cwmni ardderchog yn y rhifynnau cynt, pobl fel y canwr Delwyn Siôn, yr athrawes Ioga Laura Wyn, Nel Richards myfyrwraig o Gwm Tawe sydd ar dân dros faterion amgylcheddol ac Emlyn Davies o Bentyrch fu’n gweithio ym myd y cyfryngau ar hyd ei yrfa ac sydd wedi bod yn arwain ar y cynllun Eglwysi Dementia-gyfeillgar gyda’r Undeb.
Gobeithio’n wir y gwnewch chi fwynhau’r arlwy amrywiol a hwyliog ac y gwnewch chithau ymuno yn y sgwrs gyda’r Cwmni Bach.