Ar brynhawn Sadwrn hydrefol braf ar 10 Medi 2022 sefydlwyd y Parchg Gareth Ioan yn weinidog i Iesu Grist yn eglwysi Annibynnol Bryn Iwan, Blaen-y-coed, Nanternis a Moriah, Blaen-waun.
Dechreuodd Gareth Ioan wasanaethu cynulleidfa Bryn Iwan, sy’n gorwedd ar ucheldir gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, bron i dair blynedd yn ôl yn Nhachwedd 2019. Roedd ar y pryd yn cwblhau ei astudiaethau gyda Choleg yr Annibynwyr. Yn Ionawr 2020 estynnodd ei ofal dros eglwys Annibynnol Moriah, Blaen-waun, hefyd; eglwys a fu’n hanesyddol yn rhannu gweinidog gyda Bryn Iwan. Mae Gareth a’r teulu yn aelodau yn eglwys Annibynnol Nanternis, ger Ceinewydd, ac yn ystod ei gwrs coleg fe estynnwyd gwahoddiad iddo weinidogaethu yn eu plith hwy yn ogystal. Ar ddechrau 2020 derbyniodd alwad gan eglwys Annibynnol Blaen-y-coed, eglwys gyffiniol ei dalgylch â Bryn Iwan, i fod yn weinidog arnynt hwythau hefyd a dechreuodd ar y gwaith ym mis Mawrth 2020.
Gohirio ac addasu
Yn anffodus, fel y gwyddom, rhyw bythefnos wedi’r te croeso ym Mlaen-y-coed fe ddaeth yn argyfwng cyhoeddus wrth i bandemig COVID-19 ledu drwy’r wlad. Bu’n rhaid anghofio am unrhyw gyrddau ordeinio a sefydlu am y tro a throi meddwl at batrymau newydd o weinidogaethu. Llwyddwyd i gynnal oedfa ordeinio gyfyngedig ei phresenoldeb yn Nanternis yn Nhachwedd 2020, dan arweiniad y Parchg Aled D. Jones o Goleg yr Annibynwyr, pan ddaeth hoe fer o’r cyfyngiadau. Fodd bynnag, roedd yr awydd i gynnal gwasanaeth sefydlu undebol rhwng y pedair cynulleidfa yn parhau’n obaith byw. Gyda’r cyfyngiadau bellach wedi eu codi, daeth cyfle i wneud hynny a daeth tyrfa deilwng iawn ynghyd i nodi’r achlysur ym Mryn Iwan.
Yr Oedfa Sefydlu
Llywyddwyd yr oedfa yn urddasol a hwyliog gan y Parchg Tom Defis, sydd â chysylltiadau agos â Bryn Iwan a Blaen-y-coed fel ei gilydd. Offrymwyd gweddi gan Gwendoline Evans, ysgrifennydd eglwys Nanternis, sydd wedi cydweithio â Gareth yng nghylch Ceinewydd ers rhai blynyddoedd. Cyflwynwyd yr emynau gan Esther Defis (Blaen-y-coed), Elliw Griffiths (Bryn Iwan) a Rosemarie Davies (Moriah). Darllenwyd o’r Ysgrythur gan Meirion Thomas (Bryn Iwan) a Cai Phillips (Blaen-y-coed). Cafwyd eitem gerddorol swynol iawn gan blant ysgolion Sul Bryn Iwan a Blaen-y-coed.
Croesawu
Rhannwyd geiriau o groeso ac anogaeth gan ysgrifenyddion yr eglwysi – Rhiannon Mathias (Bryn Iwan), Gwendoline Evans (Nanternis), Elsbeth Page (Blaen-y-coed) a Meinir Eynon (Moriah). Cafwyd cyfarchion yn ogystal gan Elonwy Phillips (Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin), y Parchg Carys Ann (Cyfundeb Ceredigion), y Parchg Aled D. Jones (Coleg yr Annibynwyr) a’r Parchg Beti-Wyn James (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).
Agor y Gair
Traddodwyd y bregeth siars gan y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, gan seilio ei neges ar Marc 1: 14-15. Heriodd Guto Gareth a’r cynulleidfaoedd i sylweddoli eu cyfle, eu cyfrifoldeb a’u braint o gael cyhoeddi a gweithredu Efengyl Duw yn y dydd a’r dwthwn hwn. Bu dosbarthiadau Guto yn Llandysul yn ysbrydoliaeth fawr i Gareth. Roedd y bregeth, fel y dosbarthiadau, yn fwrlwm byw o ysgolheictod, gweledigaeth a her. Roedd yn fraint i’w gwrando.
Cwmnïaeth
Yn dilyn yr oedfa cafwyd cyfle i ymuno yn y gymdeithas a’r gwmnïaeth o amgylch y byrddau yn y festri. Mae ein diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at y lluniaeth a’r gweini. Cafwyd hefyd gyfle i werthfawrogi’r gwelliannau a wnaed i’r festri yn ddiweddar a phrofwyd bendithion y dechnoleg newydd a gyflwynwyd i’r capel (gyda chymorth y gronfa Arloesi a Buddsoddi) yn ystod y gwasanaeth. Bydd ffilm o’r achlysur yn ymddangos ar YouTube a dalennau Facebook yr eglwysi maes o law. Bore trannoeth cynhaliwyd cymun yn Nanternis, gyda chynrychiolwyr o eglwysi lleol yn ymuno â’r gynulleidfa leol. Yn y prynhawn cafwyd cymun undebol ym Mlaen-y-coed. Braf oedd cael eitem gerddorol yno gan ieuenctid Blaen-y-coed a Bryn Iwan. Cwblhawyd y dathliadau drwy barhau’r gwledda yn y festri drachefn.
Carai Gareth Ioan ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr oedfaon, gan gynnwys yr organyddion. Mae’n hynod o ddiolchgar i aelodau’r pedair eglwys am bob arwydd o groeso, cefnogaeth, anogaeth a chyfeillgarwch a dderbyniwyd ganddo dros y blynyddoedd diweddar. Edrycha ymlaen yn awr at barhau’r dystiolaeth ac ymateb i’r siars a osodwyd iddo drwy ras Duw.