Mae wedi bod yn fisi unwaith eto yn ein heglwys gyda llu o weithgareddau amrywiol yn digwydd o fewn i’n cymuned.

Diolchgarwch

Dathlwyd y cynhaeaf gydag oedfa Ddiolchgarwch yn Saron lle casglwyd digonedd o fwyd tuag at Fanc Bwyd Cwm Dulais. Gwerthfawrogwn yn fawr iawn pob cyfraniad a ddaeth i law. Pregethwyd ar Dduw ein creawdwr bendigedig.

Eira Wen

Digwyddiad eithriadol o hwyliog a llwyddiannus oedd ein perfformiad o’r ddrama Snow White and the Sound of Music (a gyfansoddwyd gan un o’n haelodau creadigol). Roedd hwn yn rhan o’n dathliadau i nodi pen blwydd y capel – nid yr eglwys – yn 120 mlwydd oed. Daeth tyrfa luosog o bobl i weld y ddrama ar brynhawn a nos Sadwrn 14 Medi a chodwyd dros £1,500 tuag at elusen Cronfa Jacob Crane Foundation. Diolch o galon i bawb fu’n cynorthwyo mewn unrhyw ffordd er mwyn llwyfannu y sioe arbennig hon.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.