Bydd Dafydd Iwan a'r offeiriad, canwr ac ymgyrchydd oes dros heddwch a chyfiawnder - Garth Hewitt - yn ymuno ar lwyfan i berfformio mewn cyngerdd arbennig ar Ebrill 14 am 6pm.

 Bydd yr holl incwm o'r gyngerdd, sydd i'w chynnal yng Nghapel Bethesda Yr Wyddgrug, yn mynd at Apel Gaza yr Amos Trust sy'n cefnogi meddygon ar waith o hyd yn Ysbyty Al-Ahli Dinas Gaza, ac hefyd y "Gaza Sunbirds" - sef tim o bara-seiclwyr sy wedi colli coes neu fraich, ond yn dal i beryglu eu bywydau yn cludo pecynnau bwyd i deuluoedd mewn mannau nad yw loriau'n gallu eu cyrraedd.

Mae'r tocynnau yn £12 ac ar werth yn Siop y Siswrn Yr Wyddgrug ac hefyd arlein
 .Mae'r tudalen yr Apêl ar gael yma

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.