Cynhaliwyd yr ail Hwb Trafod Cydenwadol yn neuadd Maenclochog ar ddydd Sadwrn, 17 Chwefror, ac roedd hi’n galondid i weld nifer dda wedi troi allan ar brynhawn mor wlyb a gaeafol.

Ar ôl i’r llywydd, y Parchg Eirian Wyn, ein croesawu a’n harwain mewn addoliad, cafwyd pregeth berthnasol ac amserol gan y Parchg Rhosier Morgan. Cymharodd ein heglwysi i frandiau byd busnes – rhaid i bobl ein hadnabod, ac er ei fod yn anodd gwerthu rhywbeth na ellir ei weld, sef achubiaeth trwy Iesu Grist, rhaid cyflawni rhywbeth nawr er mwyn y dyfodol. Nid yw ein harfau mor finiog ag yr oeddynt ac mae’r eglwys wedi colli ei hawdurdod i raddau helaeth, ond mae dal angen yr eglwys ar y byd.

Eglwys unedig

Sut i gyflawni’r angen hwn oedd byrdwn ail hanner y cyfarfod. Cafwyd cyflwyniad grymus gan y Bnr Hefin Wyn ar ei weledigaeth ef am un eglwys unedig Gymraeg yn Sir Benfro, trwy uno holl eglwysi Cymraeg y sir gyda threfniant canolog a fyddai’n cynorthwyo’r holl gapeli. Yng ngeiriau’r Parchg Ddoctor Cerwyn Davies: ‘Mae angen creu cylch o deulu’r ffydd anenwadol wedi ei seilio ar yr hyn sy’n dderbyniol i ni gyd a dechrau o’r dechrau os yw’r dystiolaeth Gristnogol i barhau a ffynnu.

‘Yn fy eglwys newydd i nid gweinidog fydde’r pennaeth ond person busnes ac yna tîm o bobl gydag arbenigedd mewn meysydd arbennig gan gynnwys gweinidog. Mae’r dydd o wneud gweinidog yn Sioni pob swydd wedi hen fynd. Dyna fy her. Beth amdani? Rhaid dechrau rhywle.’

Meddai Hefin,Nid yw hynny’n golygu torri’n rhydd ond cryfhau trwy ddatganoli a chael mwy o ddweud dros ein dyfodol ein hunain. Byddai’n rhaid dibynnu ar adnoddau a chydweithrediad yr enwadau yn ganolog. Cydweithio. Rhaid cydnabod nad yw enwadaeth yn golygu dim i’r genhedlaeth iau ond mae’n bosib cyflwyno dysgeidiaeth yr Iesu iddyn nhw. Does yna’r un capel sy’n brin o asedau materol. Ond mae angen meithrin yr asedau ysbrydol.’

Gweledigaeth

Dilynwyd Hefin gan y Parchg Geraint Morse, a fu’n rhannu ei alwad i gynnal cyrddau yn yr iaith Gymraeg islaw’r Landsker. Ni fyddai hyn yn tarfu ar y drefn bresennol yn ein capeli yma yng ngogledd y sir, ond byddai’n gyfrwng i gyflwyno’r Efengyl yn yr iaith Gymraeg i siaradwyr a dysgwyr yr iaith yn ne’r sir. Gweledigaeth Geraint yw gweld cyrddau tebyg yn nalgylch pob ysgol uwchradd.

Diolchodd y llywydd i’r siaradwyr, a chafwyd trafodaeth fywiog i ddilyn. Mynegodd rhai eu gofid nad oedd y Saesneg a dwyieithrwydd wedi’u hystyried yn ein cynlluniau. Penderfynwyd sefydlu gweithgor, dan ofal Hefin, i drafod a chynllunio’n fwy manwl, a’r gweithgor hwn, yn ôl pob tebyg, fydd yn cynllunio cyfarfodydd yr Hwb yn y dyfodol.

Cafwyd emyn (a mawr yw ein diolch i’r Fns. Wendy Lewis am ganu’r piano mor ddeheuig) a gweddi i orffen ein cyfarfod diddorol, heriol a phositif iawn.

Ann Morris 

Ysgrifennydd Cyfundeb Annibynwyr Sir Benfro

 

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.