Ar nos Sul, 16 Gorffennaf 2023, gwnaeth y gynulleidfa a oedd yn bresennol yn yr oedfa yng nghapel Rhyd-y-main y penderfyniad anodd o adael yr ofalaeth weinidogaethol y bu’r eglwys yn rhan ohoni ers deng mlynedd, a hynny oherwydd y sefyllfa ariannol fregus. 

Yn dilyn trafodaeth â’r gweinidog, penderfynwyd y byddai hyn yn dod yn weithredol ddiwedd 2023. Felly, nos Sul 17 Rhagfyr, ar derfyn oedfa olaf y Parchedig Iwan Llewelyn Jones yn weinidog ar eglwys Rhyd-y-main, manteisiwyd ar y cyfle i’w anrhegu a diolch yn ddidwyll iddo am ei weinidogaeth ddiffuant yn ystod yr amser y bu’n gweinidogaethu yn yr ardal, gan ddymuno’r gorau iddo ef a gweddill yr ofalaeth i’r dyfodol. Gobaith yr aelodau oedd na fyddai Iwan yn ddieithr i’r pulpud yn Rhyd-y-main ac y cawn ei groesawu i’n plith yn achlysurol. 

Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn, ond fel y dengys adroddiadau ariannol diweddar yr achos yn Rhyd-y-main, ‘diwedd y gân yw’r geiniog.’

Hyderwn y gallwn barhau i gadw drws y capel yn agored a chynnal y traddodiad anghydffurfiol a ddechreuodd cyn belled yn ôl â 1784.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.