Yn dilyn tirlithriad trychinebus ym Mhapua Guinea Newydd dyma weddi bwrpasol gan Ysgrifennydd Cyffredinol CWM, y Parchg Ddr Jooseop Keum, a'r cyfieithiad gan y Parchg Robin Samuel.
Dduw trugarog, down atat â chalonnau’n llawn galar a thosturi dros bobl Papua Guinea Newydd. Cyflwynwn i ti y cymunedau a ddifrodwyd gan y tirlithriad diweddar ynghyd â’r rhai sy’n gweithio i achub bywydau.
Rhannwn alar ein chwiorydd a’n brodyr yn Nhalaith Enga a gweddiwn y bydd y cymorth a’r achubiaeth sydd fawr ei angen yn cyrraedd y cymunedau yno mewn pryd. Gweddiwn y deir o hyd i fwy o bobl yn fyw a bydd teuluoedd yn gyflawn unwaith eto.
Dduw cariad, gofynnwn i Ti fwrw dy gysgod dros y rhai a gollodd anwyliaid, cartrefi a bywoliaethau. Dyro gysur i’r tor-calonnus a heddwch i’r rhai sy’n llawn ofn a phryder.
Gweddiwn dros ein chwiorydd a’n brodyr yn Eglwys Unedig Papua, Guinea Newydd, ar iddynt fod yn begynau gobaith ac yn ffynonellau cysur. Bendithia eu hymdrechion, ynghyd ag ymdrech llywodraethau canolog a lleol, staff meddygol, a’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i ddarparu cymorth a rhyddhâd. Rho iddynt ddoethineb, amynedd, a gwydnwch wrth iddynt wasanaethu eu cymunedau.
Gweddiwn hefyd am ymateb ar frys gan y llywodraeth a’r eglwysi i’r argyfwng ym Maip Mulitaka. Bydded i bob un blygu glin mewn gweddi dros yr ardaloedd a effeithir a chynnig pob cymorth a help posibl.
Dduw’r iachawr, yn wyneb dinistr a cholled, bydded i’th bresenoldeb fod yn amlwg. Bydded i’th gariad lifo drwy bob llaw sy’n helpu ac ymhob gweithred o garedigrwydd. Cynorthwya pobl Papua Guinea Newydd i fedru ail-adeiladu eu bywydau a’u cymunedau gyda dewrder a ffydd.
Dduw’r Creawdwr, iacha dy greadigaeth a phob peth byw yn Maip Mulitaka. Adfer y tir a’r amgylchedd a ddifrodwyd gan y drychineb hon. Bydded i’th gyffyrddiad iachusol gyrraedd pob creadur a effeithir, gan adnewyddu a chynnal bywyd ynghanol y difrod hwn.
Ymddiriedwn yn y cariad a’r trugaredd dwyfol nad yw’n pallu, gan gredu y gelli di ddwyn prydferthwch o’r llwch a throi’r digalondid yn obaith. Erys ein gobaith a’n ffydd yng Nghrist ein Harglwydd.
Bydded i’th oleuni ddisgleirio ym Mhapua Guinea Newydd, yn awr ac hyd byth. Gweddiwn yn enw Iesu. Amen.