Mae’n llawenydd datgan bod y Parchg Carwyn Siddall, Llanuwchllyn wedi ei apwyntio fel Cydlynydd Hyrwyddo Gweinidogaethau yr Undeb.
Rydym yn ei longyfarch yn fawr ac yn dymuno bendith Duw arno a phob llwyddiant ar ei waith.
Swydd rhan amser fydd hon iddo gan ei fod yn parhau â gofal ei eglwysi ym Mhenllyn, Meirionnydd. Y mae Carwyn yn berson adnabyddus iawn yn ein plith, yn weinidog egnïol a chydwybodol ac yn un parod ei gymwynas i’r Undeb, wedi gwasnaethu fel swyddog Adran Tystiolaeth ac Adran Eglwysi a’u Gweinidogaeth ac ar y Pwyllgor Gweinyddol. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at dderbyn ei wasanaeth a’i arweiniad.