1824–2024

Cynhaliwyd oedfa arbennig i ddathlu’r ddau ganmlwyddiant ar ddydd Sadwrn 19 Hydref. Y llywydd oedd y Parchedig Meirion Evans, Porth Tywyn, un o blant Eglwys Nebo. Braf oedd croesawu cynulleidfa gref o aelodau a ffrindiau gydag un o’n haelodau hynaf, sef Mrs Eiluned Thomas, ddaeth atom o Aberystwyth i ymuno yn y dathlu. Dechreuwyd yr oedfa a’r alwad i addoli gan y Parchedig Neil Perrington. Gwahoddwyd y Parchedig Llewelyn Picton Jones o gapel Hope-Siloh , Pontarddulais i ddarllen o’r ysgrythur gan gofio i gynifer o bobl Nebo symud i’r Bont ar hyd y blynyddoedd a dod yn aelodau gwerthfawr yn Siloh a’r Hope. Cyn iddo ein harwain mewn gweddi rhannodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor ychydig o hanes ei deulu sef rhai o aelodau cynharaf Nebo, ac yn benodol, James Evans neu Jâms y Gwehydd. Un o’r tri mab iddo godwyd i’r weinidogaeth oedd y Parchedig Ben Evans, Tabernacl Y Barri, sef hen dad-cu i’r Parchedig Guto Prys. Dywedir bod Jâms Evans yn gymeriad cryf, yn Annibynnwr selog, ac fe all mai ef fu’n gyfrifol am y geiriad hynod ar y maen ger y drws, sef Nebo, Capel yr ANYMDDIBYNWYR. Ni wyddom am unrhyw gapel arall trwy Gymru oll sydd yn arddel yr enw.

Cyfraniadau

Cafwyd gair o groeso a pheth hanes diddorol gan Nia Johns, ein trysorydd a Helen Williams, un o’r diaconiaid. Darllenwyd cyfarchion i’r eglwys wrth ein cyn weinidog, y Parchedig Gareth Mathias, a hefyd wrth Mrs Christine Pugh gweddw’r diweddar Barchedig Owen Watcyn Pugh. Anfonwn ein cofion anwylaf at un arall o gyn weinidogion Nebo sef y Parchedig E. T. Stanley Jones, Cwmafon, sydd erbyn hyn gyda’r hynaf o weinidogion yr Annibynwyr.

Cyflwynwyd anrheg i’r Parchedig Meirion Evans a Mrs Thelma Evans gan Nia Johns, ar ran yr eglwys i gydnabod eu cefnogaeth ddiflino dros y blynyddoedd. Cyflwynwyd cyfarchion Cyfundeb Gorllewin Morgannwg gan y cadeirydd Dr Dai Lloyd, a chawsom ganddo neges gref a goleuedig i roddi gobaith inni wrth edrych at ein dyfodol. Croesawyd Aldwyth Rees Davies, merch y diweddar Barchedig Gwyn Eifion Rees i’r pulpud i ddweud gair ar ran y teulu. Braf oedd clywed ei hatgofion bore oes am weinidogaeth ei thad yn Nebo. Fe’n diddanwyd gan Eiri Evans-Jones, organyddes Nebo a Rhian Harries, organyddes Salem mewn deuawd, gydag Ian Lewis yn cyfeilio wrth yr organ.

Gair gan y llywydd

Yn ystod neges y llywydd, y Parchedig Meirion Evans, clywsom am hanes Nebo a chael blas ar gynnwys yr ysgrif o’i waith ‘Hanes Nebo Felindre, golwg ar ddwy ganrif’. Mae rhan gyntaf y gwaith, sy’n cofnodi hanes y ganrif gyntaf, wedi ei chodi gair am air o lawysgrif ysgrifennydd yr eglwys, William Evans Coed Cae Croes, adeg y canmlwyddiant yn 1924. Yr oedd yntau’n hen dad-cu i’r llywydd a diolch i’r teulu am ddiogelu’r ysgrif wreiddiol.

Ymhlith y gynulleidfa oedd un sydd, ynghyd a’i deulu, bob amser yn barod ei gefnogaeth i’r eglwys a’r pentref, sef y Prifardd Emyr Lewis. Diolch am ei gymwynas werthfawr yn ein hanrhydeddu gyda’r englyn hwn. Erbyn hyn y mae wedi ei ddylunio yn hardd yn ei ffrâm:

Rhaid yw dweud ar hyd y daith – hir, mor hir, 

gylch yr haul ddauganwaith,

     er inni fynd siwrne faith,

     eto mae Nebo’n obaith.

I ddiweddi’r oedfa darllenodd y Parchedig Gerald Jones eiriau’r emyn a gyfansoddwyd gan y Parchedig Meirion Evans ym 1996. Fe’i canwyd ar y dôn ‘Blaenwern’:

Pwy sy’n seinio’r Haleliwia, 

anthem moliant iddo Ef?

B’le mae’r dorf â’i phêr Hosanna 

i groesawu Brenin Nef?

Rho in glywed eto’r alwad 

i ymuno yn y côr

sydd yn canmol Iesu’r Ceidwad, 

yn dyrchafu enw’r Iôr.

 

Diolch am y doniau daniwyd 

i foliannu D’enw glân.

Diolch am y Gair bregethwyd 

i roi Cymru oll ar dân.

Llifed dyfroedd doniau newydd 

i felinau Eglwys Dduw,

a phan dry y rhod bydd clodydd 

mewn acenion ieuanc byw.

 

O! Rho daw ar dwrf anghyfiaith 

sydd yn boddi D’eiriau glân.

Datod rwymyn tyn amheuaeth 

sydd yn bygwth tagu’r gân.

Arglwydd, agor ein calonnau 

a rhyddha’r tafodau mud,

nes bod atsain ein hanthemau 

yn distewi lleisiau’r byd.

Diolch i’r Parchedig Meirion Evans ac i bawb a fu’n weithgar yn paratoi ar gyfer yr oedfa arbennig yma. Cawsom brynhawn bendithiol bythgofiadwy gyda gwledd ardderchog i ddilyn yn neuadd y pentref. Awn ymlaen yn hyderus yn nerth y Nef i gadw’r golau i lewyrchu ar gopa bryn Nebo.

Helen Williams

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.