Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu cynllun ar gyfer cynorthwyo cwsmeriaid annomestig – gan gynnwys addoldai – gyda’u biliau ynni ar gyfer Ebrill 2023 – Mawrth 2024.

Gellir gweld y cyhoeddiad yma 

I’r rhan fwyaf o gwsmeriaid fe drefnir – yn awtomatig trwy eu biliau ynni – gostyngiad yn y pris fesul uned a godir. Dangosir manylion y gostyngiad trwy’r ddolen uchod, ac fe ddylai cyflenwyr ynni yrru cadarnhad i bob cwsmer cyn diwedd mis Mawrth 2023. Mae yna rai amodau o ran y math o gytundeb sydd gan y cwsmer â’r cyflenwr. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn golygu y bydd cost ynni fesul uned yn codi o Ebrill 2023 o’i gymharu â’r taliadau presennol, ond bydd o hyd yn llai na phris y farchnad.

Bydd nifer fach o addoldai yn gymwys hefyd ar gyfer gostyngiad ychwanegol trwy gynllun ETTI (Energy and Trade Intensive Industries), os ydynt yn safle neu’n adeilad hanesyddol neu yn atyniad i ymwelwyr; neu yn cynnal llyfrgell, archifdy neu amgueddfa. Bydd angen gwneud cais am y cymorth ychwanegol hwn, ac nid yw’r dull ymgeisio wedi ei gyhoeddi eto.

Yn anffodus, nid oes gan Cytûn yr adnoddau i gynghori addoldai unigol ar eu sefyllfa – dylid cysylltu â’r cyflenwr ynni – ond rydym yn falch i’r achos a roesom gerbron Llywodraeth y DU, gyda chymorth gwybodaeth gan nifer o eglwysi lleol, wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth.

Diolch i Swyddog Polisi Cytûn, Parchg Gethin Rhys

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.