Roedd hi’n hyfryd cael cynulleidfa lawn yn yr Eglwys Fethodistiaid, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ar nos Fercher, 15 Tachwedd i fwynhau cyngerdd bendigedig gan Gôr Caerdydd.

Codwyd swm anrhydeddus iawn, o £1,500 er budd Apêl Ffynhonnau Byw, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn cydweithrediad a Chymorth Cristnogol.

Cafwyd amrywiaeth o ddarnau corawl cyfoethog yn hanner cyntaf y cyngerdd gan gynnwys cyfieithiad Ceri Wyn Jones o waith John Rutter, ‘Bendith Clare’; ‘Laudate Dominum’, Mozart; ‘Rho im Iesu’, Benjamin Harlan; ‘Ev’ry time I feel the spirit’, Bob Chilcott; ‘Finlandia’, trefniant Jeff Howard ac ‘Un ydym ni’, Caryl Parry Jones.

Yn ogystal â hynny, pleser oedd gwrando ar nifer o unawdwyr dawnus sef Aled Wyn Thomas (tenor) yn canu ‘Llanrwst’ gan Gareth Glyn; Dafydd Huw (piano) yn chwarae ‘Fel yr Hydd’ a Llio Rhys (soprano) yn canu ‘Adre’ gan Caryl Parry Jones.

Cafwyd anerchiad gan Catrin Jên am yr apêl Ffynhonnau Byw sydd yn canolbwyntio ar anghenion cymdeithasol Colombia, De America. Requiem op.48, Gabriel Fauré oedd uchafbwynt y noson yn ail hanner y cyngerdd gyda’r unawdwyr; Emma Watt ac Iwan Llechid yn serennu.

Wrth adael y cyngerdd, roedd pawb yn unfrydol ei bod yn noson i’w chofio yng nghwmni un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru. Diolch o galon i’r côr am berfformio, i Gwawr Owen am arwain y côr ac i Dafydd Huw am gyfeilio. Diolch i bawb o aelodau Ebeneser, Caerdydd, fu’n brysur yn trefnu’r digwyddiad ac i Eynon Williams am gydlynu’r cwbl.

Adfent

Cafwyd cyfle pellach i godi arian at yr apêl yn yr oedfaon ar yr ail Sul o’r Adfent. Yn oedfa’r bore a oedd o dan arweiniad y menywod, cafwyd cyflwyniad am waith Cymorth Cristnogol yng Ngholombia trwy ddefnyddio’r adnoddau pwrpasol sydd wedi eu paratoi gan yr Undeb. Diolch i Alison Jones am drefnu’r gwasanaeth bendithiol ac i bawb a gymerodd ran. Yna yn y pnawn fe gafwyd oedfa Nadolig o amgylch y byrddau wedi ei threfnu gan Catrin Roberts. Cymrodd nifer o aelodau ran trwy ddarllen cyfran o stori’r geni gwyrthiol a sgriptiwyd ymsonau gan Catrin oedd yn portreadu ymateb rhai o’r cymeriadau. Diolch i Catrin ac i bawb gymerodd ran.

Ar ddiwedd y ddwy oedfa fe gafwyd lluniaeth ysgafn, cacennau blasus ar y byrddau oedd wedi eu haddurno’n Nadoligaidd. Diolch i bawb fu’n brysur yn pobi ac i Bethan Hayes am baratoi addurniadau bwrdd hyfryd.

Llwyddwyd i godi £233.

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.