Wrth i sawl banc bwyd gael trafferth i gwrdd â’r galw cynyddol, mae un o arweinwyr crefyddol Cymru wedi galw ar ei chyd-Gristnogion i weithredu eu ffydd trwy gyfrannu’r hun alla nhw mewn bwyd ag arian.
“Mae nifer cynyddol o deuluoedd yn dibynnu arnynt i roi bwyd ar y bwrdd, ond gyda’r galw’n cynyddu, a chostau byw yn arwain at lai o gyfraniadau, mae perygl gwirioneddol y bydd pobl yn cael eu troi i fwrdd o’r banciau bwyd am fod y silffoedd yn wag,” meddai’r Parchg Beti–Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
“Mae pryder arbennig am y cyfnod presennol – gwyliau ysgol. Yn ystod y tymor byddai plant rhan amla’n cael un pryd bwyd maethlon bob dydd yn yr ysgol. Ac mae’n ardderchog bod cytundeb wedi ei wneud yn Senedd Cymru i ddarparu bwyd ysgol yn rhad ac am ddim i bob disgybl cynradd, gan ddechrau ym mis Medi.
“Ond yn y cyfamser, fe fydd mwy a mwy o deuluoedd yn gorfod troi at y banciau bwyd, gan gynnwys pobl sydd mewn swyddi â chyflogau isel. Wrth i filiau ynni gynyddu mae’r banciau bwyd yn brysurach nag erioed, ond wrth i gostau byw effeithio ar bawb, mae sicrhau llif cyson o roddion bwyd ac arian i’r banciau yn mynd yn fwy anodd.
“Mae fy apêl at fy ngyd-Gristnogion yn syml. Geiriau Iesu: “Bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi. Yn gymaint ag ichi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain…i mi y gwnaethoch.’”
NODYN: Cafodd y banciau bwyd cyntaf eu sefydlu gan y Trussell Trust, ar sail y geiriau uchod. Erbyn hyn, maen nhw’n cefnogi 1,200 o fanciau bwyd trwy Brydain. Y llynedd, fe ddosbarthwyd dros ddwy filiwn o becynnau bwyd. Mae’r elusen hefyd yn ymgyrchu dros roi diwedd ar dlodi a’r angen am fanciau bwyd.