Cyflwynwyd Medal Thomas a Suzanna Gee er Anrhydedd i’r Parchg Tom Defis am ei holl waith dros y blynyddoedd yn cefnogi ysgolion Sul, yng nghwrdd chwarter Annibynwyr Gorllewin Cymru yng nghapel Blaen-y-coed, ger Cynwyl Elfed.

Bu Tom yn aelod o’r Cyngor Ysgolion Sul, ac mae’n bwyllgorwr ymarferol (yn cario llyfrau ac offer amrywiol o fan i fan), ac yn gadeirydd y Cyngor hefyd.

Roedd Nigel Davies, a dderbyniodd y Fedal er Anrhydedd llynedd, hefyd yn bresennol. Dywedodd iddo gwrdd â Tom Defis gyntaf flynyddoedd yn ôl pan fynegodd ei awydd i drefnu cwis Beiblaidd i ysgolion Sul. Croesodd eu llwybrau yn gyson byth ers hynny, a phan oedd Nigel Davies yn gweithio i’r Mudiad Ieuenctid Cristnogol (MIC) yn Sir Gâr, bu Tom yn gefnogol iawn iddo yn ei awydd i blant Cymru glywed am Iesu Grist, a bod o fewn cyrraedd i ysgol Sul. Ar ran plant Cymru, a phlant Sir Gâr yn arbennig, diolchodd am ei ymroddiad ac amser i’r gwaith.

Mynegodd Aled Davies, cyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul, ei gefnogaeth i bopeth a ddywedodd Nigel, cyn rhoi’r fedal am wddf Tom Davies, a chyflwyno copi o Gwyddoniadur y Beibl, Cyhoeddiadau’r Gair iddo. Diolchodd Tom am y cyfleoedd a gafodd drwy fod yn rhan o’r gwaith, a nodi ei falchder mai ym Mlaen-y-coed, eglwys ei fagwraeth, y derbyniodd y fedal, gan ganmol yr eglwys am gynnal ysgol Sul llwyddiannus o hyd.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.