Dywedodd rhywun fod gweithio dros Gristnogaeth yng Nghymru heddiw fel ceisio tyfu bresych mewn concrit ! Ac mae’n siŵr fod rhan fwyaf o ddarllenwyr Y Tyst a'r wefan yn gallu uniaethu gyda’r geiriau yna.
Braf felly yw rhannu ychydig o newyddion llawen wrth i ni dderbyn saith aelod newydd yn y Tabernacl, Hendy-gwyn yn ddiweddar. A hyn ar ôl i ni fod yn gweddïo yn gyson y misoedd diwethaf yma am i aelodau newydd ymuno gyda ni.
Y saith oedd o’r chwith i’r dde: Bleddyn Thomas, Jonathan Thomas, Hedydd Thomas, Sophie Oeppen, Geraint Phillips, Mai Giles a Phil Davies.
Mae Bleddyn, Jonathan a Geraint yn blant yr ysgol Sul. Mae’r tri yn byw yn yr ardal ac yn cyfrannu yn fawr yn lleol yn eu gwahanol feysydd. Merch o Lanybydder ac o gapel Aberduar yw Hedydd. Mae’n briod â Jonathan ac mae wedi setlo yn ardderchog yn Hendy-gwyn. Un o famau cefnogol yr ysgol Sul yw Sophie ac mae’n gweithio yn yr ysgol gynradd leol. Un o blant y capel yw Mai Giles hefyd. Mae’n gweithio ym myd addysg ac mae’r teulu wedi dychwelyd i’r ardal ar ôl byw yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd. Mae Phil yn byw ac yn gweithio yn Hendy-gwyn ac yn ymuno gyda gweddill y teulu sydd yn aelodau yn barod.
Arwydd
Hefyd fe gafwyd arwydd newydd o flaen y capel yn ddiweddar. Pwysleisia Parchg Dewi Myrddin Hughes yn ei lyfr Gofala Di pa mor bwysig yw hi i bob capel cael arwydd y tu fas gyda manylion am y capel ac amser yr oedfaon. Dywed fod pob capel heb arwydd yn ymddangos fel clwb preifat ar gyfer yr etholedig rhai.
Rhoddwyd yr arwydd er cof am John a Margaret James, Dyffryn Taf, Pengawse. Bu’r ddau yn weithgar yn y Tabernacl ar hyd y blynyddoedd gyda John James yn ysgrifennydd y capel rhwng 1982 a 2001. Ac mae’r chwe phlentyn sef Meurig, Meryl, Meirion, Meinir, Menna a Mair yn parhau gyda chysylltiad â’r capel. Gwnaethpwyd yr arwydd yn gelfydd iawn gan gwmni Boomerang, Crymych. A’r geiriau pwysicaf ar yr arwydd yw: ‘Croeso cynnes i bawb.’
Derbyn 12 aelod newydd i ofalaeth Beti-Wyn James
Gyda llawenydd mawr y gwnaeth y Parchg Beti-Wyn James dderbyn naw aelod newydd i gymdeithas yr eglwys yn y Priordy, Caerfyrddin. Mae hon yn eglwys gref a gweithgar, gyda dros 200 o aelodau.
Eglwys tipyn llai yng nghefn gwlad yw Cana, ger Bancyfelin, sy’n rhan o’r un ofalaeth, ac roedd derbyn tri aelod newydd i’w groesawu’n fawr ac yn fendith arbennig. Bu’r ddau achlysur yn destun llawenydd a diolch.