Yn ôl y canlyniadau diweddaraf i gael eu rhyddhau o Gyfrifiad 2021, mae 43.6% o Gymry yn eu hystyried eu hunain yn Gristnogion. Ddeng mlynedd yn ôl, 57.6% oedd y ffigwr hwn, sef cwymp o 14%.
Dywedodd y Parchg Beti-Wyn James, Llywydd yr Annibynwyr Cymraeg
‘Nid yw’r gostyngiad sylweddol yng nghanran y rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion yn annisgwyl. Mae’r ffaith bod cymaint o gapeli ac eglwysi wedi cau dros y ddegawd ddiwethaf yn dyst gweladwy i’r tueddiad yna, wrth i gymdeithas droi’n fwy seciwlar.
O ystyried hynny, mae’n ffaith ryfeddol bod miliwn a chwarter o bobl Cymru’n dal i alw eu hunain yn Gristnogion. Mae’n amlwg bod miloedd di-ri o bobl nad ydynt mwyach yn mynychu addoldy yn dal i deimlo teyrngarwch tuag at grefydd fore oes trwy ddisgrifio eu hunain fel Cristnogion ar ffurflen y Cyfrifiad.
‘Mae’n eithaf tebyg hefyd bod nifer o’r rhai ddywedodd nad ydynt bellach yn dilyn unrhyw grefydd yn dal i fod o dan ddylanwad capel, eglwys ac ysgol Sul. Bydd rhaid i’r grefydd Gristnogol farw allan yn llwyr yng Nghymru cyn bod y dylanwad hwnnw’n darfod. Er gwaethaf y gostyngiad presennol, hyderwn na fydd hynny fyth yn digwydd.’
Mae Undeb yr Annibynwyr yn cynrychioli Cristnogion Anghydffurfiol sy'n cwrdd mewn 350 o gapeli ledled Cymru.