Mae bwriad llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu gwariant ar amddiffyn yn aruthrol wedi cael ei wrthwynebu’n llwyr gan Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin. Ar ôl clywed y byddai’r cynnydd yn £157 biliwn dros yr wyth mlynedd nesa, cytunodd y cynadleddwyr mewn Cwrdd Chwarter yng nghapel Ffynnonbedr ger Meidrim i alw ar y llywodraeth i ailystyried. Datganwyd fod gwario ar arfau rhyfel yn groes i efengyl Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd.

Symiau aruthrol

Datgelwyd bod Prydain yn gwario 2.2% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) ar amddiffyn. Mae hyn eisoes yn uwch na disgwyliad NATO o 2.1%, ond mae’r llywodraeth am godi’r canran i 3% erbyn 2030 – sef codiad o 60% mewn termau real. Mae £47biliwn yn cael ei wario ar amddiffyn eleni, a byddai codi’r ganran i 3% yn golygu gwariant o £75biliwn y flwyddyn.

Pe bai’r cynllun yn cael ei ariannu o drethiant, byddai angen cynnydd o 5c yn y bunt ar dreth incwm erbyn diwedd y ddegawd, neu godi’r gyfradd TAW presennol o 20% i 25%. Fel arall, byddai angen toriadau llym mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a/neu ymrwymiadau gwariant rhyngwladol. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi torri cymorth dramor o 0.7% o GDP i 0.5% er mwyn ariannu’r gyllideb amddiffyn – cam a gafodd effaith ddinistriol ar waith dyngarol yn y gwledydd mwyaf tlawd yn y byd lle mae pobl yn marw o newyn wrth y miloedd.

Gwario anghyfrifol

‘Byddai codi’r canran i 3% yn wariant hollol anghyfrifol mewn cyfnod pan rydym yn wynebu’r argyfwng economaidd mwyaf mewn cenhedlaeth,’ meddai Alun Lenny, cydlynydd cenhadol y cyfundeb, wrth gyflwyno’r cynnig. ‘Ni allwn fforddio cyfrannu degau o biliynau o bunnau’n ychwanegol trwy ein trethi tuag at ehangu’r lluoedd arfog, pan fod miliynau o deuluoedd yn wynebu caledi gwirioneddol oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Byddai ariannu’r cynnydd sylweddol mewn gwariant ar amddiffyn trwy arallgyfeirio biliynau o bunnau o wasanaethau cyhoeddus fel iechyd a gofal, sydd eisoes yn gwegian, yn wirioneddol warthus.’

Tueddiad peryglus

Clywodd y cynadleddwyr bod awydd llywodraeth y DU i gynyddu grym ei luoedd arfog yn dueddiad peryglus a fyddai’n dwysau’r naws filitariaeth yn rhyngwladol. Dim ond yr Unol Daleithiau, China ac India sy’n gwario mwy na Phrydain ar amddiffyn. ‘Mae hynny’n creu mwy o elw i’r cwmnïau sy’n cynhyrchu arfau rhyfel,’ meddai’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor (yn y llun) wrth eilio’r cynnig. ‘Mae’r llywodraeth bresennol hefyd am hyrwyddo gogoniannau imperialaidd Prydain,’ meddai, ‘ac mae gwledydd fel Rwsia Tsieina am wneud yr un peth, trwy gael y cyhyrau milwrol i ddangos eu grym.’

Cawn wybod os yw’r llywodraeth am fwrw ymlaen a’i fwriad i gyrraedd y targed o 3% pan gynhelir yr adolygiad gwariant ym mis Tachwedd. 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.