Mae gorchymyn Vladimir Putin i roi grymoedd amddiffyn niwclear Rwsia ar ‘rybudd uchel’ yn dangos yr angen am ymgyrch newydd a dwys i fynnu diarfogi niwclear rhyngwladol, meddai'r Parchg Beti-Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn ei neges Gŵyl Ddewi.
"Yn ei ymateb chwyrn i sancsiynau rhyngwladol yn erbyn Rwsia am ymosod ar Wcráin, mae Mr Putin wedi codi braw byd-eang drwy gyfeirio at arfau niwclear.
"Ar wahân i straeon newyddion achlysurol am Iran a Gogledd Korea, efallai ein bod wedi tueddi meddwl mai rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yw perygl anferth arfau niwclear. Dylai bygythiad Mr Putin fod yn ysgytwad i bob un ohonom.
"Rydyn ni wedi gweld pa mor gyflym y trodd y Rhyfel Oer yn Rhyfel Poeth yn Wcráin. Gweddïwn ar Dduw na fydd yn datblygu’n rhyfel niwclear. Dyna fyddai diwedd y ddynoliaeth.
"Ar Ddydd Gŵyl Dewi, dylem gofio bod gan Gymru draddodiad hir ac anrhydeddus o hyrwyddo heddwch – o ddyddiau Henry Richard, gweinidog Annibynnol ac AS, ac Ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas Heddwch Ryngwladol yn 1850, i'r gwaith ymroddedig sy’n cael ei wneud gan Gymdeithas y Cymod heddiw.
"Wrth i ni weddïo dros Gymru a'n pobl y Dydd Gŵyl Dewi hwn, rydyn ni hefyd yn gweddïo dros bobl Wcráin a phawb arall sy'n dioddef oherwydd y gwrthdaro ofnadwy yno.”