Mae asiantaeth datblygu rhyngwladol Cymorth Cristnogol wedi lansio apêl codi arian brys yn sgil y daeargryn maint 7.7 a drawodd ganol Myanmar ar ddydd Gwener, Mawrth 28. 

Mae partneriaid yr elusen yn adrodd bod pobl wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan y trychineb, gan gynnwys llawer a welodd eu cartrefi wedi’u difetha neu eu difrodi’n wael. Amharwyd yn sylweddol ar fynediad at wasanaethau hanfodol fel dŵr, pŵer a bwydydd sylfaenol. Mae partneriaid eglwysig Cymorth Cristnogol yng Nghymru hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan ffrindiau a chysylltiadau yn Myanmar am raddfa'r angen. 

Mae angen cymorth ar frys, gan gynnwys parseli bwyd, citiau dŵr, llochesi, ac arian parod ar gyfer cyflenwadau hanfodol. 

A – gyda chymorth hael ei gefnogwyr – mae Cymorth Cristnogol yn symud i gynorthwyo ei bartneriaid a’i gymunedau sydd wedi’u heffeithio gan y daeargryn gyda chymorth ac adferiad hanfodol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. 

Eglurodd Pennaeth Asia, Dwyrain Canol ac Ewrop Cymorth Cristnogol, Julie Mehigan, fod maint y difrod yn cael ei asesu ac y byddai’r ymateb yn debygol o gael ei gynyddu yn y dyddiau nesaf. 

Ychwanegodd: “Mae Cymorth Cristnogol wedi clywed gan bartneriaid a chydweithwyr yn y rhanbarth fod Argae Kyaukse Kinta wedi byrstio ym Mandalay, gyda lefelau dŵr yn codi yn yr ardaloedd o iseldir o’i gwmpas. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a’n rhwydweithiau i nodi maint y difrod a’r risg i gymunedau yno, yn ogystal â chynnal asesiadau i nodi’r cymunedau sydd fwyaf agored i niwed ac angen ein cymorth ar unwaith. Gyda diffyg cyfathrebu ledled y wlad yn parhau i fod yn heriol. 

“Mae’r trychineb hwn wedi gadael pobl wedi’u hynysu, wedi’u syfrdanu ac angen dŵr yfed, bwyd a lloches. Mae angen ymateb angyfwng brys, gyda mynediad dyngarol llawn.  

“Mae Myanmar yn un o’r gwledydd â’r incwm isaf yn y byd. Hyd yn oed cyn y daeargryn torcalonnus hwn, rydyn ni’n gwybod bod gwrthdaro a dadleoli wedi gadael nifer o bobl mewn gwir angen. Bydd pob gweddi a phob rhodd yn cynnig gobaith i bobl sy’n cael eu taro gan drychineb.”  

Meddai Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru: “Rydym yn clywed gan ein  cydweithwyr a’n partneriaid bod angen brys am dŵr, pŵer a bwydydd sylfaenol. Rydym hefyd yn ymwybodol o gysylltiadau rhwng eglwysi a chymunedau yng Nghymru ac yn clywed yn uniongyrchol am y difrod a’r angen dyngarol.   

“Diolch i gefnogaeth gyson ein heglwysi a’n partneriaid yng Nghymru, gall Cymorth Cristnogol rhyddhau arian brys fel gall ein partneriaid lleol gyrraedd cymunedau â chefnogaeth allweddol fydd yn achub bywydau. Rydym yn apelio at gymunedau yng Nghymru i gyfrannu at yr apêl fel y gallwn gynyddu ein hymateb a sicrhau bod nwyddau hanfodol fel parseli bwyd, citiau dŵr, lloches ac arian parod ar gael i bawb sydd wedi’i heffeithio gan y trychineb torcalonnus hwn.” 

I gyfrannu at Apêl Daeargryn Myanmar, ewch at Christian Aid website. 

Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn cefnogi partneriaid a chymunedau ym Myanmar ers degawdau. Mae gan y partneriaid hyn flynyddoedd o brofiad o weithio gyda'r cymunedau yng nghanol Myanmar sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y daeargrynfeydd dinistriol hyn. Nod y dull hwn a rennir yw sicrhau bod ymatebion cymorth dyngarol a rhaglenni cymorth cymunedol yn cael eu harwain yn lleol a'u darparu gan y rhai sydd fwyaf cyfarwydd â'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. 

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.