Grand Rapids, UDA: 16–23 Mai 2024
Mis Mehefin 2010 oedd y tro cyntaf i mi ymweld â Choleg Calfin (Prifysgol Calfin erbyn hyn) yn Grand Rapids, Michigan, UDA. Y tro hwnnw, roeddwn yno gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol ar y pryd, y Parchedig Ddr Geraint Tudur, wrth iddo ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg arwyddo dogfen sefydlu Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd (WCRC). Daeth y Cymundeb i fodolaeth yn sgil uno Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd (WARC) a’r Cyngor Eciwmenaidd Diwygiedig (REC). Atgof mawr y cyfarfod hwnnw oedd profi corwynt (hyrddwynt) yn oriau mân y bore!
Ychydig feddyliais ar y pryd y byddwn ’nôl yn Grand Rapids yn 2024 fel aelod o Bwyllgor Gweinyddol y Cymundeb ac yn un o’r tri a etholwyd i gynrychioli eglwysi diwygiedig Ewrop. Mae’r Cymundeb wedi tyfu er 2010. Erbyn hyn mae’n cynrychioli rhyw 100 miliwn o Gristnogion o 233 enwad ac undeb, o 105 gwlad.
Lleoliadau byd-eang
Er 2017, pan gefais fy ethol yn aelod o’r Pwyllgor Gweinyddol yn y Gymanfa Gyffredinol yn Leipzig, yr Almaen, rydym fel pwyllgor wedi cyfarfod yn Seoul, Corea; Johannesburg, De Affrica; Kappel am Albis, y Swistir (lle lladdwyd Huldrych Zwingli, un o arweinyddion y Diwygiad Ewropeaidd, yn 1531); ynghyd â dwywaith ar-lein adeg y pandemig. Eleni, oedd ein cyfarfod olaf cyn y Gymanfa Gyffredinol yn Chiang Mai, yng Ngwlad Tai yn Hydref 2025. Paratoi ar gyfer y cyfarfod hwnnw oedd ein prif waith.
Gwarchod y cread
Sonnir yn aml mai teithio ar draws y byd yw ‘narcotig eciwmeniaeth’; penderfyniad o bwys yn Grand Rapids oedd bod y Pwyllgor Gweinyddol wedi derbyn yn unfrydol y Polisi Teithio mae’r Gweithgor Degawd Cyfiawnder Hinsawdd, rwy’n cael y fraint o fod yn gymedrolwr arno, wedi bod yn gweithio arno ers rhyw ddwy flynedd. Bydd gweithredu’r polisi yn lleihau’n sylweddol y teithio a wna staff a chynrychiolwyr y Cymundeb. O hyn allan bydd rhaid cyfiawnhau pob taith ac egluro pam na all cyfarfod ar-lein gwblhau’r gwaith angenrheidiol. Yn ychwanegol, tra deallir bod sicrhau koinonia y Gymanfa Gyffredinol bob 7 mlynedd yn holl bwysig i fodolaeth y Cymundeb, o hyn allan disgwylir i o leiaf hanner cyfarfodydd pob pwyllgor a gweithgor arall fod ar-lein.
Byw ein ffydd
Yn ei hanerchiad agoriadol tanlinellodd Llywydd y Cymundeb, y Parchedig Najla Kassab o Lebanon, bwysigrwydd dalifyndrwydd (defnyddiaf un o hoff eiriau gweinidog eglwys Minny Street) ein tystiolaeth. ‘Heddiw,’ meddai, o gofio cychwyniad y Cymundeb yn 2010, ‘rydym yn dathlu sut mae’r Arglwydd wedi bod yn teithio gyda’r Cymundeb wrth iddo dramwyo’r llwybr o ddod yn “dŷ ysbrydol” i lywio taith ein byd.’ Soniodd, gan ddefnyddio enghreifftiau byd-eang, am bwysigrwydd byw ein hysbrydolrwydd ar y strydoedd, ymhlith y rheini sy’n cael eu clwyfo a hefyd ymysg pawb sy’n ei chael yn anodd goroesi. ‘Mae dyfalbarhad yn golygu gwneud yr hyn sy’n iawn a pheidio byth ag ildio i demtasiwn neu brawf,’ meddai – dyna’r her i Gristnogion 2024.
Cyfamod Cyfiawnder
Derbyn a chynnig sylwadau ar ddogfennau trafod sydd wedi bod yn cael eu paratoi ar gyfer y Gymanfa Gyffredinol fu ein prif waith. Bwriedir cyflwyno chwe thema i drafodaeth a dirnadaeth y Gymanfa: Cymundeb Cristnogol, Cyfamod Cyfiawnder, Cenhadaeth, Cysylltiadau Eciwmenaidd a Rhyng-grefyddol, Pobl Gynhenid ac yn fwy cyffredinol thema yn ymwneud â Diwinyddiaeth y Credo Diwygiedig. Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod mewn trafodaethau gyda rhyw hanner dwsin o gyd-Gristnogion wrth i ni baratoi’r ddogfen ar Gyfamod Cyfiawnder. Bu’n fraint cael cyd-drafod gyda chyfeillion o’r Cenhedloedd Unedig, y Fforwm Cristnogol Byd-eang, Cyngor Eglwysi’r Byd a Chyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM).
Yn ein dogfen ar Gyfamod Cyfiawnder trafodwn sut mae’r system economaidd gyfredol, sy’n seiliedig ar fodel o dwf ac sy’n gweld y greadigaeth fel ffynnon y gellir tynnu adnoddau diderfyn ohoni, yn sail y trychineb hinsoddol ac ecolegol a wynebwn. Gwelwn gyfalafiaeth yn atomeiddio cymdeithas gan arwain at chwalu undod a gosod pob un ohonom mewn cystadleuaeth â’n gilydd. Cydnabyddwn fod rhai enillion wedi’u gwireddu drwy ddatgymalu patriarchaeth a symud tuag at gydraddoldeb rhywiol, ond dengys ystadegau bod yna gynnydd mewn gwreig-gasineb sy’n arwain yn uniongyrchol at drais yn erbyn menywod a thwf mewn llefaru ffiaidd. Buom hefyd yn ystyried ideolegau goruchafiaeth gan geisio dadansoddi sut y gall rhesymeg braint gael ei defnyddio i rannu a chwalu undod gweithwyr ar sail hil ac ethnigrwydd. Gwelir pobl frodorol yn parhau i gael eu gwthio i’r cyrion; gwladychir eu tiroedd, dyfroedd a gwybodaeth gan ddiwydiannau echdynnu ac elw. Gorffen y ddogfen gydag ystyriaeth o’r ffaith ein bod, bellach, yng nghanol y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, cyfnod a fydd yn cael ei dra-arglwyddiaethu gan ddibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial ac a fydd yn debygol o arwain at ddiswyddo gweithwyr a lleihau argaeledd gwaith.
Cymdeithasu
Cawsom hefyd fwynhau sesiynau mwy cymdeithasol. Braint oedd cael cynrychioli Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymundeb, y Parchedig Setri Nyomi o Ghana, yn seremoni raddio Athrofa Ddiwinyddol Calfin. Cyd-ddigwyddiad llwyr, ond yn y seremoni honno anrhydeddwyd cyn-fyfyriwr am gyfraniad oes, yr Athro Emeritws Clifford Christians. Llynedd, gyda dyfodiad deallusrwydd artiffisial a’i oblygiadau enfawr ar asesu myfyrwyr, bûm yn darllen ymchwil yr Athro Christians wrth baratoi ‘sylwadau’ ar foeseg cyfryngau o’r fath i Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd. Amheuthun fu cael sgwrs ag ef. Ar y Sul, ymunodd rhyw hanner dwsin ohonom â chynulleidfa Eglwys Ddiwygiedig Ganolog Grand Rapids i ddathlu’r Pentecost. Dyma eglwys ddiwygiedig hynaf Michigan, fe’i sefydlwyd yn 1840. Cawsom groeso arbennig gan y gweinidog, y Parchedig Ddr Steve Pierce, ein holi am waith y Cymundeb mewn sesiwn Holi ac Ateb, cyn ymuno mewn cinio a sgwrs. Un o’r emyn donau a ganwyd yn y gwasanaeth oedd ‘Aberystwyth’; bûm yn egluro i’r gynulleidfa mai Cymro oedd Joseph Parry a’i fod wedi enwi’r emyn dôn yn sgil mai ef oedd athro cyntaf yr adran gerddoriaeth newydd yng Ngholeg y Brifysgol, fel ag yr oedd, yn Aberystwyth. Bu i ni dreulio un diwrnod mewn cyfarfodydd yng Nghanolfan Gristnogol Genefa ar lannau llyn Michigan. Yn un o’r Pum Llyn Mawr, dros ginio, cymerais fantais o fynd lawr i’r llyn a’m meddwl yn llawn atgofion o’r hyn a ddysgais am y llynnoedd mewn gwersi Daearyddiaeth yn ysgol ramadeg Llandysul. Daeth y diwrnod hwn i ben mewn ymweliad i’r Athrofa Ddiwinyddol Orllewinol yn yr Iseldiroedd.
Cofnodydd plygeiniol
Bu’n bum diwrnod prysur. Fe’m henwebwyd yn brif gofnodwr (rapporteur) y grwpiau dirnadaeth a chraffu, felly deuthum yn gyfarwydd iawn ag oriau mân y bore yn gweithio i gael adroddiadau i drefn ar gyfer ein cyfarfodydd plygeiniol a oedd yn dechrau am 0700! Fy nirprwy yn gwneud hyn oedd y Parchedig Veronica Muchiri o Eglwys Bresbyteraidd Dwyrain Affrica a da fu ein cydweithio a’n rhannu hanesion. Mae yna gyfnod prysur o’n blaenau fel Pwyllgor Gweinyddol wrth baratoi at Chiang Mai – eisoes mae gennym dri chyfarfod ar-lein wedi eu trefnu (dydw i ddim yn edrych ymlaen am yr un am 0300 ym mis Tachwedd).
Rwy’n gorffen trwy nodi cymaint o fraint yw cael bod yn ymwneud â’r sefydliad hwn. Mawr fy niolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; trwy Gymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd daeth addysg, cyfeillion, hwyl a chymdeithas i’m rhan – gwir koinonia. Daw fy nhymor i ben yn y Gymanfa Gyffredinol y flwyddyn nesaf – bydd y profiad a’r fendith yn aros am byth.
Hefin Jones