Dyma adroddiad gan Dr Hefin Jones a fuodd yn cynrychioli'r Undeb yn ddiweddar yng nghyfarfod Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd yn Thesalonica.

Roedd cael dychwelyd i Thesalonica ar ddechrau Mai 2023 yn brofiad – a hynny am ddau reswm. Mae yna 29 mlynedd ers i mi dreulio cyfnod yn y ddinas ym Mhrifysgol Aristotlys ac amheuthun oedd y cyfle i adnewyddu cyfeillgarwch gyda rhai o’m cydweithwyr. Yn fwy, er hynny, roedd y cyfle i dreulio tridiau yng nghwmni cyd-Gristnogion o eglwysi ar draws Ewrop sy’n aelodau o Gymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd – corff sydd, ar lefel fyd-eang, yn cynrychioli 233 o eglwysi, enwadau ac undebau, dros 105 gwlad (rhyw 100 miliwn o Gristnogion). Dyma oedd y tro cyntaf i ni gyfarfod wyneb yn wyneb er 2019, a hynny yng Nghaeredin.

Cenhadaeth

Yn adeilad cyfoes yr Eglwys Efengylaidd yng Ngwlad Groeg yn Thesalonica y cynhaliwyd ein cyfarfodydd. Hon yw’r eglwys Brotestannaidd hynaf yn ninas Thesalonica; fe’i sefydlwyd yn 1865. Fe’i hadeiladwyd ar seiliau teml o’r cyfnod Rhufeinig, pan oedd Thesalonica yn ail ddinas i Gaer Cystennin, a gwelir colofnau o’r cyfnod hwnnw yn rhannau tanddaearol yr eglwys bresennol. Cawsom glywed am ei chenhadaeth – cynnig cartref ffydd i fyfyrwyr y Brifysgol – daw rhyw 100 o fyfyrwyr ynghyd bob nos Sadwrn i Astudiaeth Feiblaidd o dan arweiniad y Parchedig Sotiris Boukis, gweinidog ieuenctid a theuluoedd yr eglwys, ac yn ddyddiol, cynigir bwyd i dlodion a ffoaduriaid Thesalonica.

Busnes

Treuliwyd cryn amser ar faterion busnes. Diweddaru’r cyfansoddiad oedd ein prif destun trafodaeth busnes, hynny yn sgil y newidiadau a ddaeth o benderfyniadau’r Cyngor Cyffredinol yn Leipzig yn 2017. Defnyddiais y cyfle i godi materion yn ymwneud ag oblygiadau stiwardiaeth o’r cread a’r angen i ni i’w hystyried cyn gwneud unrhyw drefniant cyfarfod. Mae hwn yn benderfyniad anodd i gyrff tebyg i’r Cymundeb gan fod y koinonia a ddaw yn sgil cyfarfod wyneb yn wyneb yn hollbwysig ac anodd ei greu ar-lein. Cytunwyd y byddem o hyn allan yn ystyried o ddifrif cyn pob cyfarfod a oes angen ymgasglu mewn un lleoliad. Da yw hyn – gan nad rhywbeth i eraill yw gofal am y blaned!

Addoli mewn argyfwng

Cafwyd trafodaeth dda ar ddogfen ymgynghorol ar addoli mewn argyfwng - boed ryfel, pandemig neu economi. Dyma’r agwedd orau o’r cyfarfodydd hyn; grwpiau bach a chael rhannu tystiolaeth bersonol. Er i mi gael fy enwi fel rapporteur cefais ddigon o gyfle i sôn am y modd y bu i ni, eglwysi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ymateb i her Covid, y trafodaethau am yr ymateb Cristnogol i ryfel Wcráin, a’r modd y ceisiwn sicrhau addoliad trwy wasanaeth ymysg y rheini yn ein plith sy’n llai ffodus. Golygir y ddogfen hon yn sgil y drafodaeth cyn ei rhannu ymysg yr eglwysi i hybu ystyriaeth bellach.

Sesiwn ddirdynnol

Heb amheuaeth, sesiwn mwyaf dirdynnol y tridiau oedd anerchiad yr Esgob Sándor Zán Fábián o Eglwys Ddiwygiedig Is-Carpathia. Bu’n trafod yr hyn sydd wedi digwydd yn ei wlad er misoedd Chwefror a Mawrth 2014, pan oresgynnodd Rwsia Benrhyn y Crimea, cyn ei gyfeddiannu. Er disgrifio sefyllfaoedd difrifol a dioddef erchyll, pwysleisiodd yr esgob fod yn rhaid inni ddibynnu ar Dduw bob amser, bod â ffydd ac ymddiried ynddo. Mae Llyfr Job (14: 7–9), meddai, yn ein galw i obeithio: ‘Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur â thyfu. Er i’w gwraidd heneiddio yn y ddaear, ac i’w boncyff farweiddio yn y pridd, pan synhwyra ddŵr fe adfywia, ac fe flagura fel planhigyn ifanc.’ Aeth yn ei flaen, ‘Er ein bod ni’n wynebu pob math o anawsterau, mae’n rhaid i ni gael gobaith o hyd. Os yw Duw yn gofalu am adar yr awyr, os yw’r goeden wedi’i thorri yn blaguro, yna faint o obaith a ddylai fod gan ddilynwr Crist?’

Roedd gwrando arno yn ysbrydoliaeth a dwysbigwyd pawb gan ddwyster a dyfnder ei ffydd mewn cyfnod mor anodd yn hanes ei wlad a’i phobl.

Kintsugi

Cefais fy ysbrydoli hefyd gan eiriau Llywydd y Cymundeb, y Parchedig Najla Abou Sawan Kassab, sy’n weinidog ordeiniedig yn Synod Efengylaidd Syria a Libanus. Soniodd am gelf hynafol Japaneaidd o atgyweirio crochenwaith toredig trwy ailgydio’r darnau gyda lacr wedi’i gymysgu ag aur, arian, neu bowdr platinwm – kintsugi. Athroniaeth y gelfyddyd yw pwysigrwydd gweld torri ac atgyweirio yn rhannau annatod o'n hanes ac nid fel diffyg y dylid ei guddio. Canolbwyntia’r gelf ar ddryllio, cyn harddu a rhoi gwedd newydd, harddach nag o'r blaen. Onid dyna, gofynnodd Najla, waith yr eglwys?

Ef yw y Crist

Fel rhan o’i ail daith genhadol bu’r Apostol Paul yn ymweld â Thesalonica gyda Timotheus a Silas. Yma, y pregethodd ‘Yr Iesu hwn, yr hwn yr wyf yn cyhoeddi i chwi, yw y Crist.’ (Actau 17: 3) Ar ôl tridiau o drafod a bod yng nghwmni ‘pobl y ffydd’ wedi ymgynnull o bob cwr o’n cyfandir, o gael clywed ac ystyried negeseuon Sándor Zán Fábián a Najla Kassab, a chael myfyrio o flaen y garreg ym Mynachlog Vlatadon lle, yn ôl traddodiad, y safodd Paul arni i bregethu, gweddïaf innau am nerth i fedru datgan fy ffydd mewn byd toredig gyda’r fath arddeliad. Diolch Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am y fraint o gael ein cynrychioli.

Hefin Jones

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.