Dyma'r newyddion diweddaraf gan Swyddog Polisi Cytûn, Y Parchg Gethin Rhys

Yn dilyn pleidlais Senedd Cymru yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth newid i reoliadau Covid Cymru i rym heddiw -https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-rhif-5-cymru-2020-fel-yu-diwygiwyd Yr unig newid yw ymestyn y defnydd o ‘pasiau Covid’ (sicrwydd o frechiad neu brawf negyddol o fewn y 48 awr blaenorol) i theatrau, neuaddau cyngerdd a sinemâu. Cawsom gadarnhad gan Lywodraeth Cymru nad yw hyn yn golygu fod rheidrwydd cyfreithiol gofyn am bas Covid gan y sawl sy’n mynychu drama, cyngerdd neu ffilm mewn adeilad, megis addoldy neu neuadd gymunedol, nad yw’n cael ei ddefnyddio ond yn achlysurol i’r fath berwyl (gweler y geiriad Saesneg isod). 

Fe fyddwn i yn ychwanegu y gall fod yn ddoeth i addoldai sy’n cynnal gweithgareddau o’r fath, wrth lunio’r asesiad risg ar gyfer yr achlysur yn unol â’r rheoliadau, gynnwys ystyriaeth o ofyn am sicrwydd pás Covid. Mater i benderfyniad gan ymddiriedolwyr/rheolyddion y fangre ar sail y risg fyddai p’un a ddylid gwneud hynny ai peidio.

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.