1. Cydnabyddiaeth y Weinidogaeth Achlysurol
Yr ydym fel aelodau Cyfundeb Annibynwyr Meirion yn galw ar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i gychwyn trafodaeth gyda’r enwadau anghydffurfiol eraill i geisio cysoni cydnabyddiaeth y Sul i weinidogion, pregethwyr lleyg a myfyrwyr, gan gynnwys oedfaon digidol.
Cynigydd: Mr Ian Lloyd Hughes
Eilydd: Mrs Bethan Davies Jones
Cyflwynir y cynnig ar ran Cyfundeb Meirion
2. Apêl Arbennig Cymorth Cristnogol
Cynigir ein bod, fel Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn lansio apêl ariannol arbennig yn ein cyfarfodydd blynyddol yn 2023, a’n bod yn trafod gyda Chymorth Cristnogol yn y cyfamser i weld pa fath apêl a fyddai’n gymwys i ennyn ein cefnogaeth.
Cynigydd: Mr Emlyn Davies
Eilydd: Mr Rhodri-Gwynn Jones
Cyflwynir y cynnig ar ran yr Adran Dinasyddiaeth Gristnogol
3. Cyfiawnder hinsawdd yng nghyswllt ‘colled a difrod’
Cyflwyniad:
Mae’r gwrthdaro yn Wcráin wedi mynd â sylw’r byd dros y misoedd diwethaf, ac mae’r ymateb gan ein heglwysi a’n cymunedau wedi bod yn llethol. Un canlyniad i’r ymladd yno yw bod prisiau grawn wedi codi, gan fod Wcráin yn wlad sy’n cynhyrchu cymaint o rawn ar gyfer y byd. Wrth gwrs, bydd llawer o wledydd cyfoethog yn gallu ymdopi gyda’r prisiau uwch, ond i’r gwledydd tlawd mae’n fater gwahanol.
Mae’r byd yn cynhyrchu mwy o fwyd nag erioed yn hanes y ddynoliaeth, ond mae bron i 700 miliwn o bobl yn mynd i’r gwely heb ddigon o fwyd, a mwy na 40 miliwn yn agos i newyn. Yn llawer o’r gwledydd y mai Cymorth Cristnogol yn gweithio ynddyn nhw – Afghanistan, Ethiopia, Kenya, De Sudan, Haiti, Burkina Faso – mae hi eisoes yn anodd cynhyrchu eu bwyd eu hunain oherwydd y newid yn yr hinsawdd, a bydd prisiau uwch yn ychwanegu at yr argyfwng.
Cartrefi wedi’u colli oherwydd lefelau dŵr yn codi, tir ffermio yn troi yn anialwch, seiclonau eithafol a thanau gwyllt yn dinistrio’r tir, mae’r colledion a difrod sydd yn cael ei brofi gan gymunedau weithiau yn amhosib adfer ohonyn nhw. Mae’r colledion yn amhosib ennill yn ôl, a’r difrod yn fawr – yn gadael cymunedau heb ddim ac yn gorfodi pobl i adael eu cartrefi ac i fynd heb ddigon o fwyd. Mae ymgyrch CC yn galw ar y rai sydd yn gyfrifol am yr argyfwng hinsawdd (gwledydd cyfoethog, cwmnïau tanwydd ffosil ayb) i dalu am y golled a’r difrod sydd yn effeithio fwyaf ar bobl dlotaf y byd. Mae hyn yn fater o gyfiawnder. Mae’n hanfodol bod yr eglwysi yn codi eu llais ynglŷn â’r mater hwn.
Yr ydym yn cynnig ein bod ni fel:
1) Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn cefnogi, ond hefyd yn annog cyfundebau, yr eglwysi ac unigolion i gefnogi ymgyrch Cymorth Cristnogol, ‘Colled a Difrod’, e.e. galw ar Lywodraeth Prydain :
- i bwyso am greu cronfa ryngwladol newydd yn 2022 ar gyfer ‘colled a difrod’ mewn perthynas â’r hinsawdd
- i berswadio gwledydd eraill i gefnogi cronfa ‘colled a difrod’.
- Sicrhau bod yr arian sydd yn y gronfa hon, yn cyrraedd y cymunedau tlotaf a’r mwyaf bregus
2) Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cymryd rhan a hefyd yn annog cyfundebau, yr eglwysi ac unigolion i gymryd rhan mewn gweithgaredd trafod Cyfiawnder Hinsawdd ynghylch yr argyfwng hinsawdd, a’r hyn sydd angen inni wneud i weld ein heglwysi a’n cymunedau yn gweithredu dros y degawd allweddol yma, gan ddefnyddio pecyn trafod Cymorth Cristnogol a bwydo ymateb ’nôl i Cymorth Cristnogol o fewn y 6 mis nesaf.
3) Undeb yr Annibynwyr Cymraeg hefyd yn annog eglwysi ac ysgolion Sul fel gweithgaredd pob oed, i ymateb i gynllun dylunio Cymorth Cristnogol ‘Llythyrau Dros y Greadigaeth’ ac i rannu hynny gyda’r gymuned.
Cynigydd: Parchg Tom T. Defis
Eilydd: Parchg Guto Prys ap Gwynfor
Cyflwynir y cynnig ar ran Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin
4. Llunio cyfreithiau a pholisïau gan Lywodraeth Prydain
Mae Cynhadledd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn hynod annifyr gyda’r cynnydd amlwg mewn cyfreithiau a pholisïau anoddefgar sydd bellach yn cael eu cynnig a’u trafod yn Senedd y Deyrnas Unedig, a’u gweithredu gan Lywodraeth Prydain. Mae amryw o’r deddfau a’r polisïau hyn yn wrthun i draddodiadau goddefgar a rhyddfrydol y wladwriaeth.
Rydym yn pryderu bod iawnderau a hawliau dynol yn cael eu tanseilio, a bod hawliau gweithwyr yn cael eu peryglu.
Ceir enghreifftiau diweddar yn y ddeddf a basiwyd yn 2022 ar Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd sy’n cyfyngu ar yr hawl i wrthdystio’n heddychlon, a hefyd ar ymgais cyson i atal ceiswyr lloches rhag hawlio statws fel ffoaduriaid oddi fewn i’r Deyrnas Unedig. Ychwanegwyd at hyn yn ddiweddar gyda dechrau alltudio ceiswyr lloches i’w prosesu yn Rwanda.
Fel Undeb o eglwysi Cristnogol a dilynwyr Iesu Grist, safwn yn gadarn dros werthoedd efengyl y Deyrnas. Galwn, felly, ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod pob polisi a deddf yn gosod buddiannau pobl anghenus y byd yn gyntaf, a bod hawl gan drigolion Prydain i brotestio yn agored yn cael ei amddiffyn i’r eithaf. Galwn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau na fydd unrhyw ymgais gan y wladwriaeth i ddirywio cyfundrefnau hawliau dynol na hawliau gweithwyr oddi fewn i’r Deyrnas Unedig.
Cynigydd: Parchg Aled D. Jones
Eilydd: Gwynn Bowyer
Cyflwynir y cynnig ar ran Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin