Wrth ysgrifennu’r geiriau hyn y mae cyfanswm y marwolaethau wedi cyrraedd 42 o filoedd, o ganlyniad i’r daeargryn mawr yn Nhwrci a Syria.

Mae’r rhif hwn yn debygol o godi eto wrth i fwy o gyrff gael eu canfod, ac eraill yn marw oherwydd diffyg gwasanaethau argyfwng digonol. Amcangyfrifir bod y daeargryn wedi effeithio ar tua 17 miliwn o bobl, gyda llawer wedi colli eu cartrefi a llawer iawn mwy wedi gorfod ffoi oherwydd bod yr isadeiladedd yn beryglus. Gyda chynifer yn ddigartref, mae’r tywydd oer a rhewllyd ac eira yn gwneud y gwaith yn fwy heriol. Bu arweinwyr Syria yn gyndyn i ganiatáu cymorth dyngarol i mewn o gwbl, ond erbyn hyn mae’r Cenhedloedd Unedig wedi sicrhau caniatâd i ddod ag offer ac adnoddau brys i gefnogi’r ymdrech.

Y daeargryn

Yn gynnar fore Llun 6 Chwefror tarodd y daeargryn ardal yn ne a chanolbarth Twrci a gogledd a gorllewin Syria. Cafwyd difrod enbyd i adeiladau mewn trefi, a marwolaethau di-rif. Yn fuan clywsom fod teulu o Syria sydd wedi ymgartrefu yn nhŷ capel eglwys y Priordy yng Nghaerfyrddin wedi colli chwech o’u perthnasau sef tad, mam a 4 o’u plant.

Hwn oedd y daeargryn gwaethaf yn Nhwrci ers daeargryn Erzincan yn 1939, a’r daeargryn gwaethaf yn Syria ers daeargryn Aleppo yn 1822. Mae’n bosib nad ydym yn gyfarwydd â’r rhan hwn o’r byd, ond yr hen enw ar Antakia, yw Antioch. Dyma leoliad un o’r eglwysi Cristnogol cynharaf gydag Eglwys Pedr ar y Graig yno yn un o’r eglwysi Cristnogol hynaf yn y byd. Dwy dref arall a effeithiwyd yw Mersin ac Adana sydd wrth ymyl Tarsus, sef cartref yr apostol Paul.

Meddai Ertan Çevì, Llywydd Ffederasiwn Eglwysi Bedyddiedig Twrci: ‘Mae ein gwlad mewn sioc fawr. Mae llawer o adeiladau wedi’u difrodi a bu’n rhaid i filoedd adael eu cartrefi. Mae’n oer iawn yma, ac yn bwrw eira yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd a effeithiwyd, ac mae’r ffyrdd hefyd wedi’u difrodi’n ddifrifol. Mae hyn yn gwneud y chwilio a’r achub yn fwy anodd. Gweddïwch dros ein gwlad a thros y rhai a gollodd eu hanwyliaid. Gweddïwch hefyd bydd y gefnogaeth ddyngarol sydd eu hangen a’r cyfarpar argyfwng yn ein cyrraedd yn gyflym.’

Cefnogaeth i apêl DEC

Y flaenoriaeth bellach yw sicrhau cymorth dyngarol cyflym ac effeithiol. Ar ddydd Iau Chwefror 9fed cyhoeddwyd bod mudiad DEC (Disasters Emergency Committee), yn lansio apêl argyfwng. Cafwyd addewid o £2 miliwn gan lywodraeth San Steffan a £300,000 gan Senedd Cymru. Wrth lansio apêl DEC Cymru yn y Senedd, dywedodd Peredur Owen Griffiths AC, ‘Mae’r dinistr yn Nhwrci a Syria yn dorcalonnus, gyda miloedd o bobl yn colli anwyliaid yn sydyn yn y ffyrdd mwyaf ysgytwol. Mae angen arian ar frys i gefnogi teuluoedd gyda chymorth meddygol, lloches brys, bwyd a dŵr glân mewn tywydd gaeafol, rhewllyd. Ar ôl siarad â chymunedau Twrcaidd a Syriaidd yn fy rhanbarth mae’r gofid a’r tor calon yn treiddio yn ddwfn i mewn i’n cymunedau ni yma yng Nghymru.’

Gweddi

Apeliwn felly arnoch fel darllenwyr Y Tyst  a'r wefan i ymateb yn raslon ac yn weddigar. Gweddïwn dros bawb sy’n galaru am anwyliaid a gollwyd a dros bawb a anafwyd,  dros y rhai sy’n bryderus wrth ddisgwyl newyddion am anwyliaid sydd ar goll, a dros y rhai y dinistriwyd eu cartrefi a’u cymunedau.

Cyfrannu

Hoffem eich annog i gyfrannu hyd at eithaf ein gallu i ymdrech DEC. Maent yn nodi bod 17 MILIWN o bobl yn byw yn yr ardal yr effeithiwyd arni, gyda llawer ohonynt angen cymorth brys am loches, bwyd a chymorth meddygol. Noda DEC mai arian sydd ei angen ar hyn o bryd, er mwyn iddynt brynu’r hyn sydd ei angen ar fyrder.

Aled Davies

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.