Tristwch o’r mwyaf yw gweld yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Haiti yn ddiweddar. 

Gyda phopeth yn symud mor gyflym, mae’n anodd dychmygu beth fydd y sefyllfa erbyn y bydd y geiriau hyn yn ymddangos yn Y Tyst ond, ar hyn o bryd, wrth i mi ysgrifennu, mae’r prif weinidog, Ariel Henry, oedd wedi ei atal rhag dychwelyd i’r wlad o daith dramor, wedi ymddiswyddo, mae gangiau arfog yn rheoli’r strydoedd ac mae’r wlad i gyd yn ymdroelli’n raddol tuag at anarchiaeth lwyr. Ni allwn ond gobeithio y daw rhywbeth i atal hynny rhag digwydd.

Daeargryn 2010

Cwta un mlynedd ar ddeg yn ôl yr oeddwn i yno, a hynny yng nghwmni Gwynn Angell Jones, Elenid Jones, Jeff Williams a Tom Defis. Pwrpas yr ymweliad oedd casglu deunyddiau ar gyfer apêl fawr yr Undeb a Chymorth Cristnogol yn 2013–14. Roedd y wlad, yr adeg honno, wedi ei hergydio’n drwm gan ddaeargryn yn 2010 a chorwynt Sandy yn 2012. Yr oedd angen cymorth, a ninnau, fel cymaint o gwmpas y byd, yn ceisio ymateb i’w sefyllfa.

Croesawyd ni i’r wlad gan un o weithwyr Cymorth Cristnogol, Prospery Raymond, a’r tîm yr oedd yn ei arwain. Buom yno am wyth diwrnod yn crwydro yma a thraw, ac wedi cael yr wybodaeth a’r lluniau yr oeddem eu hangen, daethom yn ôl i Gymru a chynnal yr apêl. Wedi blwyddyn o weithgarwch ar lawr gwlad ymhlith yr eglwysi, yr oeddem fel Annibynwyr wedi llwyddo i gasglu dros £193,000 gyda’r bwriad o hyrwyddo amrywiol brosiectau yn Haiti. Pa syndod, felly, fod yr hyn sy’n digwydd yno heddiw o ddiddordeb mawr i ni.

Prif weinidog

Tra buom yn y wlad, bu i ni gyfarfod â nifer y bobl. Yn wir, cawsom ysgwyd llaw â’r prif weinidog, Laurent Lamothe, wedi i ni gael ein cyflwyno iddo mewn bwyty yr oeddem yn digwydd bod ynddo pan gyrhaeddodd i gael ei swper un noson gyda’r fintai o wŷr arfog oedd yn ei warchod. Pur nerfus oeddent hwy wrth i Prospery Raymond ei hebrwng tuag atom ac, o ganlyniad, pur nerfus oeddem ninnau o weld y gynnau wrth i ni gael ei gyfarch!

Ond yr oedd eraill hefyd y gwnaethom eu cyfarfod, y rhai yr oeddem wedi dod yno i’w gweld. Y wraig yn y llaethdy, y gweithwyr oedd yn ailadeiladu’r wlad, y rhai oedd yn cadw cychod gwenyn ac yn gwerthu’r mêl, y rhai oedd yn gwneud dillad, y rhai oedd yn trin y tir, a’r rhai oedd yn hyfforddi eraill mewn amrywiol sgiliau. A’r hyn oedd yn drawiadol am y bobl hyn i gyd oedd eu bod mor siriol; er gwaethaf eu tlodi ac er gwaethaf y dinistr oedd o’u cwmpas, yr oeddent yn dal i wenu, yn dal yn serchog, yn dal i chwerthin ac yn groesawus dros ben.

Darlun cofiadwy

O’r holl luniau a dynnais yn ystod yr ymweliad, y mae un sydd wedi aros gyda mi. Mae wedi ei fframio ac ar wal yma yn fy nghartref. Llun yw o frawd a chwaer y gofynnais am ganiatâd i dynnu eu llun, y ddau yn sefyll yn droednoeth yn nrws eu cartref tlawd, y chwaer yn gwenu’n llydan ac wedi trwsio’i gwallt, ond y brawd yn edrych yn bur ansicr wrth weld y dyn dieithr a’i gamera ffansi yn tynnu ei lun. 

Mae’r llun ar y wal yma ers blynyddoedd i f’atgoffa o’r ymweliad â Haiti ond hefyd i’m hatgoffa fy mod, fel llawer eraill o ddarllenwyr Y Tyst, ymhlith y 7% mwyaf breintiedig o bobl y byd sy’n mwynhau bywyd diogel a moethus, ac ar ben ein digon.

Daeth apêl Cymorth Cristnogol er budd Haiti i ben yn 2014, a bu i ninnau symud ymlaen. Ond y mae Haiti yn dal yno. Tybed beth yw hanes y brawd a’r chwaer erbyn hyn? A ydynt yng nghanol yr helyntion yr ydym ni’n clywed amdanynt y dyddiau hyn? A ydynt yn dal i fyw yn eu mamwlad? A ydynt yn dal yn fyw o gwbl? Nid oes modd i mi wybod, ond er mai dim ond am eiliadau’n unig y bu i’n llwybrau groesi yr holl amser hwnnw yn ôl, yr wyf yn dal i gofio amdanynt, yn dal i edrych arnynt, a heddiw yn gobeithio ac yn gweddïo y bydd iddynt hwy, ac i weddill eu gwlad, dynnu trwy’r argyfwng presennol a symud ymlaen i ddyddiau gwell.

Geraint Tudur

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.