Cynhaliwyd seminar bwysig, wedi ei noddi gan yr Academi Brydeinig, yn adeilad urddasol y Pierhead Bae Caerdydd ar 14 Mai yn dwyn y teitl, ‘The Church, The Far Right and the Claim To Christianity’. 

Gwahoddwyd cynrychiolaeth o holl enwadau Cymru i ddod at ei gilydd i ddysgu mwy am ddatblygiadau peryglus ac annerbyniol yng nghyd-destun Cristnogaeth gyfoes yng ngwledydd Prydain. (Er hynny dim ond 14 ohonom oedd yn bresennol.) Trefnwyd y digwyddiad gan y Centre for the Study of Bible and Violence sydd a’i bencadlys ym Mryste. Gellir cael mwy o wybodaeth am waith y ganolfan trwy ymweld â’i gwefan csbvbristol.org.uk. Sefydlwyd y ganolfan hon er mwyn astudio’r dehongli sydd ar y rhannau hynny o’r Beibl sy’n ymwneud â thrais a hyrwyddo heddwch a didreisedd.

Dysgu a rhybuddio

Y ddau siaradwr oedd dwy o academyddion y ganolfan sef y Parchg Dr Helen Paynter a Dr Maria Power. Rhanasant gyda ni beth o ffrwyth eu hymchwil a’u pryder ynglŷn â’r Asgell Dde Eithafol yng ngwledydd Prydain sy’n dod yn fwy a mwy dylanwadol. O ganlyniad i hynny maent yn twyllo rhai Cristnogion i ymhél â’u syniadaeth wyrdroëdig. Yn yr hydref eleni cyhoeddir cyfrol yn dwyn y teitl The Church, The Far Right, and the Claim to Christianity. Bwriad y gyfrol fydd addysgu a rhybuddio Cristnogion am yr hyn sy’n digwydd gan roi arweiniad iddynt sut i ymateb yn fwyaf effeithiol. Cadeiriwyd y sesiwn gan Darren Miller, sy’n aelod o’r Senedd dros etholaeth gogledd-orllewin Clwyd gyda’r Torïaid.

Britain First ac UKIP

Yr hyn sy’n peri pryder yw bod yr Asgell Dde Eithafol yn herwgipio Cristnogaeth gan gamddefnyddio adnodau o’r Beibl er mwyn hyrwyddo eu syniadaeth hiliol, ymfflamychol a threisgar. Y mae’r rhain yn cynnwys mudiadau fel UKIP, Britain First a National Action sydd ag elfennau neo-Natsïaidd. Gwaetha’r modd yn raddol y maent yn llwyddo i ddylanwadu ar feddylfryd pobl gyffredin fel eu bod hwy yn mynd i gredu’r lol beryglus y maent yn ei gyhoeddi. Dysgant fod mewnfudwyr, ymgeiswyr lloches a diwylliannau amgen yn tanseilio’r diwylliant cynhenid gwyn Cristnogol hanesyddol ym Mhrydain ac mai ein cyfrifoldeb ni yw ei amddiffyn ar boen ein bywyd. Gwaetha’r modd y mae eu hagweddau’n gul, twyllodrus a chelwyddog ac yn hyrwyddo casineb trwy bolareiddio pobl o fewn i’r gymdeithas. Ac wrth gwrs y mae rhai Cristnogion yn ddigon diniwed i gredu eu rhethreg niweidiol. Un o’u tactegau yw gorymdeithio trwy ardaloedd lle mae’r mwyafrif o’r trigolion yn Fwslemiaid gan gario croesau gwynion (gweler y llun). Yn naturiol y mae hyn yn annoeth ac yn corddi’r dyfroedd. Noddir eu gweithgareddau gan unigolion cefnog sydd am hyrwyddo syniadaeth asgell dde.

10 argymhelliad

Y mae’r ganolfan wedi creu 10 argymhelliad er mwyn cynorthwyo eglwysi i wrthsefyll dylanwad yr Asgell Dde Eithafol. Dyma syniad bras ohonynt: 1. Siarad yn ostyngedig. 2. Gwrthod trais. 3. Osgoi defnyddio stereoteipiau. 4. Annog trafodaeth. 5. Peidio â llyncu syniadaeth. 6. Delio gyda’r rhesymau am anniddigrwydd cymdeithasol. 7. Bod yn broffwydol. 8. Noddi gwaith ieuenctid. 9. Hyrwyddo llythrennedd Beiblaidd. 10. Dysgu o hanes.

Roedd hon yn sesiwn fuddiol oedd yn ein helpu i ddeall yn well ddatblygiadau sy’n digwydd o’n cwmpas gan ein harfogi i ymateb yn ddoeth a beiblaidd i’r heriau hyn.

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.