Un o’r atgofion o’m cyfnod fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (2004–5) yw ymweliad ein Hysgrifennydd Cyffredinol ar y pryd, y Parchedig Dewi Myrddin Hughes, a’i briod Annette, i Gyngor Cyffredinol Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd (WARC – Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd, WCRC, erbyn hyn) yn Accra, Ghana. Bu iddynt rannu â mi effaith eu hymweliad i gastell Elmina yn Accra, caer fu a rôl ganolog yn y fasnach gaethweision trawsiwerydd.

Trwy borthladd masnachu Elmina y sianelwyd 10,000–12,000 o gaethweision rhwng 1500 a 1535. Carcharwyd y caethweision o dan gapel y gaer, safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach i gynnal arwerthiannau caethweision.

Economi fyd-eang

Yng Nghyngor Accra, heriodd eglwysi’r De y teulu Diwygiedig i ddatgan cyffes ffydd unedig yn erbyn niwed economi fyd-eang yr unfed ganrif ar hugain. Bu yna anghytuno athrawiaethol, ond ymddangosodd consensws ynglŷn â natur broblematig yr economi fyd-eang a’r anghyfiawnderau y mae’n ei gynhyrchu. Arweiniodd y consensws hwn at safiad ffydd ynghylch anghyfiawnderau economaidd a dinistr ecolegol. O ganlyniad ffurfiwyd Cyffes Accra, sydd ers ugain mlynedd bellach wedi chwarae rhan ganolog yn nhrafodaethau’r teulu Diwygiedig. Arweiniodd at drafodaethau’r Strwythur Cyllidol ac Economaidd Rhyngwladol Newydd (NIFEA) ac esgorodd ar weithgor Economi Bywyd a Newid Hinsawdd ein Hundeb ninnau.

Cyffes Accra

Mae Cyffes Accra yn seiliedig ar yr argyhoeddiad diwinyddol bod anghyfiawnder economaidd ac ecolegol yr economi fyd-eang gyfredol yn mynnu bod y teulu Diwygiedig yn ymateb iddo fel mater o ffydd yn Efengyl Iesu Grist. Datgan bod materion cyfiawnder economaidd ac ecolegol nid yn unig yn faterion cymdeithasol, gwleidyddol a moesol, ond hefyd yn rhan annatod o ffydd yn Iesu Grist ac yn effeithio ar gyfanrwydd yr eglwys. Mae bod yn ffyddlon i gyfamod Duw yn gofyn i Gristnogion unigol a chynulleidfaoedd eglwysi sefyll yn erbyn anghyfiawnderau economaidd ac amgylcheddol. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, a yw Cyffes Accra wedi cael dylanwad? Ble saif y Gyffes yn ein cenhadaeth heddiw? Yn wythnos gyntaf Rhagfyr cefais y fraint fel Cydlynydd Gweithgor Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd ar Gyfiawnder Hinsawdd o fod yn un o ryw hanner cant o gynrychiolwyr rhyngwladol wedi eu hymgynnull yn Hannover, yr Almaen mewn ymgynghoriad Accra 20+ i holi a cheisio atebion i’r cwestiynau hyn.

Datganiad proffwydol

Goblygiadau cenhadol Cyffes Accra fu prif drywydd ein trafodaethau. Fe’n hatgoffwyd o wreiddiau’r gyffes fel ‘datganiad proffwydol’ yn erbyn effeithiau dinistriol globaleiddio economaidd gan ganolbwyntio ar anghyfiawnder ‘ymyleiddio systemig gwragedd a grwpiau gorthrymedig eraill.’ Buom yn ystyried yr angen am fframweithiau cyfiawnder cynhwysol, a strwythurau sicrhau gwireddu dyhead dyfodol tosturiol, llawn llawenydd. Cawsom drafodaethau ar ryw a rhywedd gyda chynrychiolwyr yn rhannu profiadau o anghyfiawnderau yn effeithio’n uniongyrchol arnynt. Bu’r sgwrs ar ymgysylltiad ieuenctid ac economi gofal yn dreiddiol: ‘Mae’r Economi Gofal hwn yn symud ein ffocws i les pawb, gan greu economi o obaith. Dychmygwch pa mor wahanol y gallai ein byd fod pe baem yn blaenoriaethu gofal a chymorth i bawb.’

Eco-ddiwinyddiaeth

Fe’m gwahoddwyd i gymedroli sesiwn fore Iau. Y siaradwr cyntaf oedd y diwinydd, gwleidydd a chyn-lywydd Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd. Tra bûm yn fyfyriwr yn yr 1980au, ces dipyn o ymwneud â’r mudiad gwrth-apartheid, ac yn ystod y cyfnod deuthum yn gyfarwydd ag enw Allan Boesak fel beirniad a gwrthwynebydd di-flewyn-ar-dafod i bolisïau’r Blaid Genedlaethol yn Ne Affrica. Braint oedd ei gyfarfod a dod unwaith eto, o dan hud ei arddull areithio wrth iddo ofyn a feiddiwn siarad am obaith, a sut mae chwilio am iaith bywyd mewn ffydd a gwleidyddiaeth. 

Fe’i dilynwyd gan un arall rwyf yn llawn edmygedd ohoni – Jessica Hetherington. Yn eco-ddiwinydd a gweinidog ordeiniedig, mae awdures hon yn cydblethu’r argyfwng ecolegol, rôl ffydd, a’r potensial ar gyfer disgyblaeth Gristnogol fel ffordd i ymateb yn radical ac yn ffyddlon i ofynion yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Erys ei chyflwyniad ar ‘Disgyblaeth mewn Byd ar Dân: Ffydd Gristnogol ac Argyfwng Ecolegol’ yn y cof am dro. 

Y siaradwr olaf oedd y diwinydd Septemmy Lakawa o brifysgol Jakarta. Gwahanol iawn ei thrywydd, soniodd Septemmy am ddiwinyddiaeth y noken. Bag traddodiadol ym Mhapwa yw’r noken ac eglurodd sut y gall fod fel llestr a ffynhonnell bywyd yn cynnwys gwerthoedd crefyddol ac ysbrydol. Bu iddi ddehongli’r noken fel cynrychiolaeth o gariad Duw yn meithrin ffydd a gobeithion yn y Creawdwr. Yn ogystal, mae’r noken yn cael ei weld fel ail 'groth'. Mae plant sy'n cael eu geni yn cael eu rhoi mewn noken fel cynhwysydd ar gyfer twf a datblygiad nes eu bod yn medru cropian. Cysyniad gwerthfawr wrth ystyried ffydd, a chred.

Tridiau arbennig iawn. Adnabuwyd llwyddiannau niferus wedi deillio o Gyffes Accra; sylweddolwyd hefyd bod yna fethiannau mewn sawl agwedd. Tanlinellwyd gan nifer ohonom, a rhaid i mi gyfaddef fy mod i ofyn hyn mewn nifer o’r trafodaethau, ‘faint o bwrpas sydd i’r fath gyffesion diwinyddol drwm os nad ydym yn eu cyflwyno mewn ffordd ddealladwy i aelodau’n heglwysi.’ Dros y Nadolig byddwn fel aelodau’r ymgynghoriad yn gweithio ar grynhoi ein meddyliau mewn dogfen ymgynghorol i’w chyflwyno yng Nghyngor Cyffredinol Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd yn Chiang Mai ym mis Hydref.

Heb amheuaeth roedd Cyffes Accra yn garreg filltir yn hanes y teulu Diwygiedig yn 2004; mae’n dal yn berthnasol ac ynddi ceir canllawiau ffydd sydd yn ymateb i’n hanghenion yn 2024. Y cwestiwn a erys – faint o sylw mae’n heglwysi yn ei roi iddi?

Hefin Jones

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.