Mae elusen heddwch Cymreig (Cymdeithas y Cymod) yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi pobl diniwed Swdan. 

Mae argyfwng dyngarol arswydus wrthi’n datblygu yn Swdan, ond mae sylw y byd yn absennol. Mae miliynau yn dioddef, ac mae angen ymyrraeth ar frys i ddelio â’r sefyllfa argyfyngus. 

Mae Swdan yn profi ton newydd frawychus o drais, sydd wedi ei yrru’n bennaf gan densiynau hirhoedlog dros adnoddau rhwng cymunedau ffermio nad ydynt yn Arabaidd, fel y Massalit, a chymunedau bugeiliol Arabaidd. Mae lluoedd paramilwrol y Rapid Air Forces (RAF) a’u cefnogwyr Arabaidd wedi bod yn gyfrifol am droseddau yn erbyn dynoliaeth mewn perthynas â’r Massalit a chymunedau an-Arabaidd eraill, yn ôl Human Rights Watch. 

Mae’r ystadegau yn frawychus: 

  • Mae o leiaf 14,700 o bobl wedi colli eu bywydau. 
  • Mae bron 25 miliwn o bobl, dros hanner poblogaeth Swdan, angen cymorth ar frys. 
  • Mae dros 8 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli. 

Mae’r sefyllfa yn gwaethygu o ddydd i ddydd. Mae plant yn llwgu mewn gwersylloedd dadleoli lle mae newyn yn rhemp a lle nad yw cymorth i achub bywydau yn cyrraedd y rhai sydd ei angen. Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod y sawl sy’n llywio’r hil-laddiad yn paratoi i ddwysáu eu hymgyrchoedd creulon. Mae’n rhaid i’r gymuned rhyngwladol weithredu ar unwaith i atal y llif o arfau a gweithredu sancsiynau ar y rhai sy’n gyfrifol am yr erchyllderau hyn. 

Mae cymhlethdod y gwrthdaro wedi cael ei ddwysáu gan ddylanwadau allanol, mae’r Emiraethau Arabaidd Unedig (UAE) yn cefnogi’r RAF, wrth i Iran a’r Aifft gefnogi’r Cadfridog Burhan. Mae’n ymddangos bod Rwsia yn cefnogi’r ddwy ochr, gan ychwanegu at y cynnwrf. 

Yn rhanbarth Darfur, yn enwedig yr El Fasher, mae’r arswyd yn glir. Mae dynion, menywod a phlant wedi cael eu lladd yn ddidrugaredd, mae menywod a merched wedi dioddef trais rhywiol, ac mae cymunedau cyfan wedi cael eu dinistrio. 

“Mae Hil-laddiad wrthi’n digwdd yn Darfur eto – dim ond dau ddegawd wedi i’r erchyllderau yno syfrdanu’r byd. Does dim amser i’w wastraffu, mae pobl Swdan angen cymorth. Mae angen i Lywodraeth y DU rhoi pwysau ar y cyfranogwyr yn y gwrthdaro a gweithio tuag at heddwch parhaol yn y rhanbarth.” 

Rydym yn galw ar bobl i godi ymwybddiaeth a rhannu gwbodaeth am yr argyfwng. Rydym hefyd yn galw ar bobl i gysylltu â’u Haelodau Seneddol i bwyso am sancsiynau a chymorth dyngarol ar unwaith. 

Mae ymyrraeth ryngwladol yn hanfodol er mwyn rhwystro rhagor o ladd ac i ddychwelyd heddwch a diogelwch i’r rhanbarth. 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.