Pa hwyl bawb? Mae gennym flwyddyn brysur o’n blaenau! 

Bydd eglwysi sy’n perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn codi arian ar gyfer apêl Cymorth Cristnogol Ffynhonnau Byw yn ystod 2023–24 i gefnogi prosiectau ar lawr gwlad yng Ngholombia. Mae’r prosiectau yn ymwneud â’r amgylchedd, pobl leiafrifol, pobl ifanc a merched.

Dyma i chi rai syniadau am bethau i’w trefnu er mwyn codi arian. Mae’n siŵr bod gennych chi eich syniadau eich hun. Mi gewch chi hwyl wrth ddod ynghyd i gymdeithasu a chodi arian ar gyfer achosion teilwng iawn ar yr un pryd. Edrychwn ymlaen at glywed beth fyddwch wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn sy’n dod. Gellir lawrlwytho'r daflen syniadau fan hyn.

Ewch amdani, a mwynhewch!

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.