Mae’r bennod ddiweddaraf o bodlediad Y Cwmni Bach wedi cyrraedd gwefan Undeb yr Annibynwyr a’r tro hwn rydym ni’n cyflwyno Prif Weithredwr newydd Cytûn i chi, sef y Parchg Siôn Brynach.

Cawn dreulio awr yn ei gwmni yn clywed ei hanes difyr a throeon hynod amrywiol ei yrfa. Y mae gan Siôn ddigon i’w ddweud am bob math o bethau ac mae’n beth braf iawn clywed am ei fagwraeth, ei deulu a’i brofiadau yn ystod ei fywyd. Mae’n berson hawdd i fod yn ei gwmni, yn rhywun sy’n llawn asbri byw yn ogystal â bod yn ddyn deallus, meddylgar ac ysbrydol. Yn ystod y bennod cafwyd adegau o lawenydd ond hefyd o dristwch, sydd ond yn dangos mai gwead hynod amrywiol sy’n creu bywyd. 

Yn sicr mi fydd gan Siôn gyfraniad mawr i’w wneud gyda Chytûn, y mae’n ddyn o egni ac ymroddiad arbennig. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r bennod hon o’r Cwmni Bach

Cadw Cwmni

Erbyn hyn wrth gwrs mae sawl pennod o’r Cwmni Bach ar gael gyda gwestai mor amrywiol â’r canwr Delwyn Siôn, Emlyn Davies Gwaelod-y-garth, Rhun Dafydd o Gymdeithas y Cymod, a Nel Richards yn wreiddiol o Gastell-nedd ond sydd bellach yn byw yn Llundain ac sydd â diddordeb mawr mewn materion amgylcheddol. 

Mae pob un o’r podlediadau’n gyfle i ddod i adnabod pobl o bob cwr yn well a hynny mewn awyrgylch hamddenol a hwyliog. Mae pob rhifyn o’r podlediad i’w cael ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, neu ar lwyfannau digidol eraill fel YouTube, Apple a Spotify. Gallwch naill ai wrando arnyn nhw fel radio, neu eu gwylio fel rhaglen deledu ar y we.

Adnodd yw’r podlediadau hyn i chi eu defnyddio fel yr hoffech chi, naill ai ar eich pen eich hun neu mewn cwmni. Gallwch eu gwylio nhw adre ar eich cyfrifiadur neu wrando arnyn nhw ar eich ffôn. Ond hefyd maent yn adnodd digidol i’w defnyddio gan eich eglwysi. 

Os nad oes gennych chi oedfa wedi’i threfnu, pam na wnewch chi ddefnyddio un o bodlediadau Y Cwmni Bach yn hytrach? Gallwch gasglu ynghyd yn y capel, cychwyn gyda gweddi agoriadol, canu emyn yna gwylio rhifyn o’r Cwmni Bach er mwyn clywed tystiolaeth Gristnogol, yna cloi’r cwrdd drwy ganu emyn ac offrymu gweddi. Neu beth am ddangos pennod o’r Cwmni Bach dros baned yn y festri neu yn neuadd y pentref adeg cyfarfod cymdeithasol yn ystod yr wythnos yn hytrach na gwahodd gwestai? 

Mae gan bob un o’n gwesteion ni bethau gwych i’w dweud a phob un yn wahanol. Mae podlediadau Y Cwmni Bach yn fodd i ni gynnal sgwrs â’n gilydd ac yn bendant mi fydd y sgwrs honno’n parhau yn ein mysg.

Ewch i'r dudalen hon i weld y casgliad hyd yn hyn. 

 

[Mae cyfres podlediadau misol Y Cwmni Bach yn gynllun dwy flynedd a wnaethpwyd yn bosibl drwy arian gan CWM o dan eu cynllun MSP4 (Mission Support Programme) nhw. Mae ein diolch ni’n fawr iddyn nhw am eu haelioni.] 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.