Eleni gwahoddir ysgolion Sul i ddefnyddio’u dychymyg a’u doniau creadigol i greu podlediad / hysbyseb / fideo / unrhyw beth cyfrwng digidol byr (hyd at 5 munud o hyd) neu waith celf ar y thema:  

Ein Hysgol Sul: ‘Gwasanaethu Iesu.’ 

Roedd Iesu’n ymateb i angen pobl drwy wasanaeth cariadus a thyner. Roedd yn dangos i ni sut oedd ymddwyn drwy esiampl. Sut ydych chi’n gwasanaethu Iesu bob dydd? Sut mae eich ysgol Sul chi’n gwasanaethu Iesu?  

Anfoner eich cynnyrch digidol at rhodri@annibynwyr.cymru a’r cynnyrch celf at Elinor yn Nhŷ John Penri, 5 Axis Court, Glanyrafon, Abertawe SA7 0AJ erbyn dydd Iau, 29 Mai 2025.  

Caiff cyflwyniad o’r holl gyfraniadau ei ddangos yn ystod ein Cyfarfodydd Blynyddol yn Nant Gwrtheyrn ym mis Mehefin. 

Os am fwy o fanylion, cysylltwch â Thŷ John Penri: 01792 795888 neu undeb@annibynwyr.cymru  

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.